Enillwyr Brwydr y Bandiau 2008

Llongyfarchiadau i’r Offbeats o Grymych ar ennill Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2008, gan guro Stone Free (o Aberystwyth) a Tempo (hefyd o Grymych) yn y rownd derfynol ar Orffennaf 2ail.

Mae’r wobr i’r band ifanc yn un sylweddol – byddant yn recordio Sesiwn i C2; yn cael ymddangos ar raglenni teledu Bandit ac Uned 5 ar S4C; perfformio yn Maes B, Eisteddfod Caerdydd 2008; chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru; yn ogystal a pherfformio ar Daith Bandit / C2 2008.