Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau

Cafwyd wythnos hynod lwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, ym Meifod eleni a diolch i bobl Maldwyn yn enwedig am eu croeso twymgalon. Fel bob blwyddyn, roedd gan Mentrau Iaith Cymru stondin a drefnwyd ar y cyd â Menter Iaith Maldwyn.

Mae gan bobl Maldwyn dafodiaith unigryw, ac o’r syniad hwnnw tyfodd prif thema’r wythnos sef dathlu tafodieithoedd hynod Cymru. Gwnaethpwyd hyn trwy gyfres o weithdai celf dan ofal yr Artist Nerys Jones oedd yn cynnwys gosod geiriau tafodieithol ar un papur bro anferth, creu mygydau tafod gyda hoff geiriau arnynt a recordio yn ein Bŵth Tafodiaith.

11694834_866253126793958_2578023935204546927_n

Gellir gweld mwy o luniau o’r Bŵth Tafodiaith ar dudalen Facebook Menter Iaith Maldwyn.

Mae Menter Iaith Maldwyn yn gobeithio creu storfa ar-lein o’r eitemau er mwyn cadw a nodi’n tafodieithoedd hynod at genedlaethau’r dyfodol.

Ochr yn ochr â hyn trefnwyd nifer o weithdai amrywiol gan gynnwys Dawnsio Stryd, Dawns y Glocsen a Gweithdai dysgu chwarae iwcaleli.

Cydweithiwyd yn agos hefyd gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys S4C a gynigodd sesiynau gyda rhai o’u cymeriadau mwyaf blaenllaw a Helfa Drysor i ddathlu a chofio T. Llew Jones. Heb os nag oni bai, profodd sesiynau ‘Steddfod Sili ‘Sbyty Hospital, Stwnsh yn hynod boblogaidd gyda’r stondin dan ei sang i gyfarch Dj Sal a’r Criw gyda chystadleuaeth rapio rhwng y Rapiwr enwog Ed Holden a DJ Sal yn tynnu’r eisteddfodwyr yn eu heidiau i’r stondin.

IMG-20150806-WA0002Ni siomodd yr arlwy gerddorol ychwaith gyda setiau gan Carw (Band Trydan Lleol), Y Trŵbz, Sorela, Plethyn a chorau ysgolion Dafydd Llwyd a Phontrobert.

I gloi’r wythnos, trefnwyd panel drafod ar y cyd ag Ymgyrch Cymreigio’r Wê, dan ofal Positif a gadeiriwyd gan Dylan Iorwerth. Cafwyd trafodaeth hynod ddiddorol a bwriedir crynhoi’r sylwadau a chasglu barn er mwyn llywio ymgyrchoedd i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar y we yn ystod yr Hydref.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n gweithio’n ddiwyd i drefnu’r stondin a diolch hefyd i’r nifer fawr ohonoch a alwodd heibio i’n gweld yn ystod yr wythnos. Edrychwn ymlaen yn awr at Eisteddfod Sir y Fflint a’r Fenni.