Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae yn cael ei gynnal unwaith eto eleni ar y 15fed o Hydref.

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn ddiwrnod i bawb yng Nghymru a thu hwnt yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ddysgwyr neu yn bobl sydd ond â llond llaw o eiriau Cymraeg yn unig – gall bawb ymuno yn yr hwyl!

Bwriad y diwrnod yw annog mwy o bobl i ddefnyddio Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Wyt ti’n bwriadu rhoi cynnig arni i ddefnyddio mwy o dy Gymraeg?

Bydd y Mentrau Iaith yn annog pawb i roi cynnig arni ar y 15fed o Hydref. Beth am ymuno yn yr hwyl gyda ni ac ymfalchio yn y ffaith ein bod yn siarad Cymraeg?

Cofia ddefnyddio’r hashnod #DSS15 i rannu dy luniau a dy ddigwyddiadau gyda ni!