Gyda Diwrnod Santes Dwynwen ar y gorwel mae’r Mentrau wrthi’n brysur yn cynllunio ar ei gyfer. Mae amryw o weithgareddau wedi eu paratoi i ddathlu Diwrnod Santes Cariadon Cymru. Ymunwch ag amrywiaeth o gystadlaethau ar-lein neu ewch i un o’r amryw ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn eich ardal.

Am wybodaeth bellach neu am ddigwyddiadau sydd yn lleol i chi dilynwch Mentrau Iaith Cymru a’ch Menter Iaith leol ar Twitter