Fel rhan o ddathliadau Calan Gaeaf eleni mae’r Mentrau Iaith yn tynnu sylw at ffigwr blaenllaw o chwedloniaeth Celtaidd ar gyfer Dydd y Meirw – Gwyn ap Nudd.  

 

I ddathlu, mae cystadleuaeth cenedlaethol i blant a phobl ifanc i greu ac addurno penglog Gwyn ap Nudd, Brenin Annwn (neu Annwfn) erbyn hanner nos ar Galan Gaeaf, Hydref 31.  

 

Diolch i gydweithrediad Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd), bydd cyfres o fideos yn adrodd stori Gwyn ap Nudd a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymreig wedi eu cyflwyno gan y storïwr Gwilym Morus-Baird yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Bwriad y fideos yw codi ymwybyddiaeth o’r chwedloniaeth Gymreig a Cheltaidd sy’n gysylltiedig â noson Calan Gaeaf.  

 

Dywed Bet Huws, Swyddog Hunaniaith:  “Gyda chyfyngiadau Covid-19 eleni yn effeithio ar y gweithgareddau Eingl Americanaidd Calan Gaeaf arferol, dyma gyfle gwych i gyflwyno Gwyn ap Nudd i blant a phobl ifanc Cymru.”

Wedi eu hysbrydoli o glywed yr hanes bydd modd i blant a phobl ifanc Cymru lawrlwytho templed i greu penglog papur o wefan Mentrau Iaith Cymru a’i addurno. Er mwyn cystadlu, anfonwch lun o’ch penglog at eich Menter Iaith leol. Bydd y penglogau buddugol yn y categorïau cynradd ac uwchradd yna’n mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol a fydd yn cael eu beirniadu gan ddwy o awduresau blaenllaw Cymru:  Angharad Tomos a Bethan Gwanas.  

 

Mae’r gystadleuaeth wedi ei gwneud yn bosib diolch i gydweithrediad yr holl Fentrau Iaith lleol a Mentrau Iaith Cymru, ac yn benodol Hunaniaith a Menter Iaith Sir Ddinbych sydd wedi cydweithio i gynhyrchu’r adnoddau.