Cynhadledd Prif Swyddogion a Chadeiryddion

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Gynhadledd Prif Swyddogion a Chadeiryddion y Mentrau am ddau ddiwrnod o drafod, dysgu a rhwydweithio â chynrychiolwyr o bob Menter Iaith yng Nghymru.  Mae’r Mentrau Iaith yn cyfarfod yn rheolaidd yn genedlaethol i drafod a rhannu gwybodaeth o arfer da, ac mae’r gynhadledd yma yn adeiladu ar y rhwydweithio yna ac yn rhoi cyfle i ni ddatblygu rhai o’n syniadau ymhellach ar y cyd a chlywed gan gyflwynwyr sydd hefyd yn gweithredu ym maes y Gymraeg.

 

Mae’r rhaglen yn un amrywiol a chyffrous ac ymysg y sesiynau a siaradwyr bydd:

 

  • Anerchiad agoriadol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC
  • Anerchiad gan Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru
  • Cyflwyniad gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
  • Cyflwyniad gan Isadran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • Cynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg: sesiwn rhannu gwybodaeth a thrafodaeth
  • Cyflwyniadau gan y Mentrau Iaith am brosiectau arloesol
  • Cyflwyniad ar Ymchwil i Ddefnydd Iaith Siaradwyr Cymraeg yn eu Bywyd bob Dydd gan Carys Evans, Pennaeth Ymchwil S4C
  • Gwasanaethau a Chefnogaeth i’r Mentrau gan Busnes Cymru
  • Sesiwn Ysbrydoliaeth Marchnata’r Gymraeg gan Llyr Roberts, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Llandrindod