Yr haf yma bydd dwy o Fentrau Iaith y gogledd, ar y cyd gyda phartneriaeth amgylcheddol yn trefnu cyfres o deithiau maes fydd yn cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn eu gwaith yn y sectorau amgylcheddol ac awyr agored.

Rhwng Mehefin a diwedd Medi bydd Partneriaeth Cwm Idwal, partneriaeth a ffurfiwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i warchod a rheoli’r Cwm yn cynnal pedair taith maes yn y Cwm ar themâu sy’n cynnwys bioamrywiaeth, daeareg, hanes enwau lleoedd ac agweddau ar dwristiaeth a rheolaeth.
Targedir y teithiau at unigolion sy’n ennill bywoliaeth neu’n gwirfoddoli yn y sectorau awyr agored neu amgylcheddol sy’n byw yn siroedd Conwy a Gwynedd.
Meddai Guto Roberts, Warden Partneriaeth Cwm Idwal “mae’r sectorau awyr agored ac amgylcheddol yn tyfu, mae’n allweddol ein bod yn gofalu fod yna ddigon o bobl sy’n gweithio yn y meysydd hynny nid yn unig yn siarad Cymraeg ond hefyd yn ei defnyddio o ddydd i ddydd yn eu gwaith”. Aeth ymlaen i esbonio “mae Cwm Idwal yn cynnig ei hun yn berffaith fel ystafell ddosbarth awyr agored i ni ddehongli pob agwedd ar dirwedd, planhigion, bywyd gwyllt a threftadaeth ieithyddol y rhan yma o Eryri i bobl sy’n gweithio yn yr awyr agored” meddai.
Hyrwyddir y teithiau gan Fenter Iaith Conwy a Hunaniaith, y fenter iaith yng Ngwynedd. Meddai Ifan Llewelyn Jones, Swyddog Datblygu Iaith Hunaniaith “un o amcanion y mentrau iaith ydi annog mwy o siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yny gweithle”; aeth Meirion Davies, Prif Swyddog Menter Iaith Conwy ymlaen i esbonio “mae Menter Iaith Conwy wedi gweithio ers blynyddoedd i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg sy’n ennill bywoliaeth yn y sector awyr agored, bydd y teithiau yma’n wych i’r gweithwyr hynny ddatblygu’r hyder, y wybodaeth a’r awydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Os hoffai unrhyw un sy’n gweithio, neu’n gwirfododli yn y sectorau awyr agored neu amgylcheddol, yn byw yn siroeodd Gwynedd neu Conwy fwy o wybodaeth dylent ebostio Guto.Roberts@nationaltrust.org.uk

CynefinCymraeg