Mae’r Mentrau Iaith wedi lansio sianel newydd ar lwyfan AM sy’n cynnwys degau o weithgareddau Cymraeg i’w gwneud gartref. Mae’r sianel yn cynnwys gweithgareddau i deuluoedd, i blant, i’r ifanc, i’r gymuned a mwy i annog pawb o bob oed ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog tra’n aros yn ddiogel yn ein cartrefi yn ystod cyfnod y clo. 

Dywed Bethan Jones, Swyddog Datblygu Cymunedol o Fenter Iaith Sir Caerffili; 

“Mae wedi bod yn flwyddyn o newid ac addasu i bawb eleni, yn cynnwys i’r Mentrau Iaith. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cynnal gweithgareddau fideo o osod blodau i gemau cyfrifiadurol, a phopeth rhwng y ddau. Mae’n bleser gallu gweld yr holl weithgareddau yma ar gael mewn un lle i bobl o bob oed dros Gymru allu pori trwyddynt a mwynhau o adre.” 

AM yw platfform digidol aml-gyfryngol cyntaf Cymru. Mae’n blatfform i dros 220 o sianelau creadigol sydd yn adlewyrchu ystod o fywyd diwylliannol Cymru. Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mae bellach dros 70,000 o bobl yn defnyddio AM a thros 11,000 wedi lawrlwytho yr ap. 

Mae’r sianel Mentrau Iaith yn cael ei lansio fel rhan o fersiwn newydd y wefan a’r ap AM. Fel rhan o’r fersiwn newydd mae’r adnodd yn galluogi categoreiddio cynnwys i adlewyrchu gwahanol elfennau. Esbonia Alun Llwyd, Prif Weithredwr Pyst, sy’n gyfrifol am y llwyfan; 

“Mae’n wych medru adlewyrchu rhywfaint o waith anhygoel y Mentrau Iaith ar AM a chynnig gofod digidol pwrpasol a chynulleidfa ehangach i’r gwaith hynny. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth gyson y Mentrau Iaith ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn agosach fyth i’r dyfodol.” 

Mae modd darganfod yr holl adnoddau ar www.amam.cymru/mentrauiaith