Ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi buddugwyr y gystadleuaeth, aeth yn genedlaethol am y tro cyntaf eleni:

1af – Ysgol Pencae, Caerdydd

2il – Ysgol Teilo Sant, Llandeilo

3ydd – Ysgol Rhyd y Grug, Aberfan

Gelli ddarllen mwy am y cwis yma.

Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi mewn cyfarfod arbennig gyda’r holl ysgolion y rownd derfynol yn bresennol o dros Gymru gyfan. Cafodd y cyhoeddid ei wneud gan neb llai na Owain Williams, cyflwynydd y rhanglen Stwnsh Sadwrn.

Gwylia’r fideo am flas o’r cyffro.

Da iawn i pob un o’r 150 ysgol a gymrodd ran a’r dros 3,000 o ddisgyblion.

Mae Cwis Dim Clem yn cael ei gynnal yn flynyddol gan y Mentrau Iaith. Eisiau cymryd rhan yn 2022? Cysyllta gyda dy Fenter Iaith leol di.