Heddiw cyhoeddwyd Fforwm Cymunedol Penparcau yn fuddugol yng nghystadleuaeth Brwydr y Bwgan Brain Mentrau Iaith. 

Cynhaliwyd y gystadleuaeth genedlaethol gan y Mentrau Iaith eleni i wobrwyo bwganod brain oedd yn cyfleu Cymru a Chymreictod. Anogwyd cystadleuwyr i ailddefnyddio ac ailgylchu’r hyn oedd ganddynt yn eu tai neu eu siediau eisoes a bod mor greadigol â phosib.  

Daeth staff Fforwm Cymunedol Penparcau, Aberystwyth, i’r brig gyda delwau o blant mewn gwisg Gymreig dan eiriau enwog Cymdeithas Bêl-droed Cymru – ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach’ ar gyfer Yr Hwb, cartref y Fforwm.

Dywed Clare Jackson, Swyddog Sgyrsiau Lleol y Fforwm;  

“Roeddem yn credu y byddai [Bwgan Brain] yn gwneud cyfraniad rhagorol i’r ardd gymunedol newydd a gardd wenyn Yr Hwb a hwyluswyd gan Brosiect Plannu Penparcau. Rydyn ni bob amser yn edrych ar ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg yn Yr Hwb ac felly roedd hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo’r ochr hynny a dod â gwên i drigolion y pentref trwy greu’r Bwgan Brain. Mae plant yn ein hysbrydoli ni  gyda gobaith a hapusrwydd. Maent hefyd yn gallu cofleidio newid ac arddangos tosturi mewn ffordd rydyn ni’n ei cholli weithiau pan rydyn ni’n dod yn oedolion a dyna pam mai nhw oedd yr ysbrydoliaeth.” 

Mae creu bwgan brain yn gystadleuaeth boblogaidd mewn sioeau bach lleol ar draws y wlad, ond gyda’r sioeau hyn wedi’u canslo neu ohirio ar hyd a lled Cymru eleni, roedd y Mentrau am gynnal y gystadleuaeth hon i godi calon cymunedau ar draws Cymru gyda chyfle i bobl o bob oed gymryd rhan.   

Daeth Gwyneth Broadmeadow, 71 oed o Sir Conwy yn ail gyda bwgan brain o delynores a’i thelyn a Betsi Payne, 9 oed, o Sir Benfro yn drydydd gyda’u fersiwn o Ken ‘y Sheriff’ Owens.

Dywed Gwyneth Broadmeadow: 

“Enwogrwydd o’r diwedd yn 71 oed! Ces y syniad gan fod fy merch yn chwarae’r delyn, sydd yn cael ei gadw yn ein ni. Roedd y delyn yn rhy fawr felly penderfynais greu un fy hun. Roedd o’n ddefnyddiol cael y tannau i ddal y breichiau yn eu lle. Dydy’r ddelw ddim yn cynrychioli unrhyw un penodol ond roeddwn i eisiau cyfleu cerddor sy’n angerddol am y delyn Gymreig ac rwy’n gobeithio i mi lwyddo. Wnes i fwynhau creu hi, ac rwyf wedi ei galw’n Morfudd.” 

Dywed Betsi Payne: 

“Mae’r teulu yn gefnogwyr mawr o dim rygbi y Scarlets felly pwy arall ond Ken Owens byddai’r boi I drawsnewid mewn i Fwgan Brain! Ni’n big fan o’r Scarlets a Ken. Dewiso ni Ken gan ei fod yn Sheriff y Gorllewin yn enw ac y wyneb cyfarwydd iawn i bawb yng Nghymru ac mae’r angerdd mae’n dangos wrth ganu’r anthem cyn gemau rygbi rhyngwladol yn dangos faint o Gymro yw e!” 

Daeth 10 bwgan i’r brig i’w beirniadu yn y rownd derfynol gan y darlledwr a’r cyflwynydd Ifan Jones Evans, sy’n gyfarwydd â phwysigrwydd sioeau amaethyddol i gymunedau.  

Mae’r enillydd yn derbyn darlun unigryw Bwgan Brain gan Oriel Odl.