Mae’r Mentrau Iaith a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cydweithio i greu logo newydd. Bydd y logo yn cael ei ddefnyddio ar bosteri digwyddiadau sy’n addas ar gyfer dysgwyr lefelau Canolradd ac Uwch i fwynhau’r Gymraeg o 1af Ebrill, 2021.

Coffi a Chlonc, Peint a Sgwrs, cwis, clwb darllen, taith gerdded – dyma rai o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y 22 Menter Iaith dros Gymru. Mae’r digwyddiadau yma yn gyfle i adnabod y gymuned leol, ac i siaradwyr newydd ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth gyda phobl leol.

Yn 2020 fe wnaeth Mentrau Iaith Cymru gynnal ymchwiliad i’r gweithgareddau y mae’r Mentrau Iaith yn cynnig i ddysgwyr, er mwyn helpu’r dysgwyr i ddod yn rhan o’r gymuned Gymraeg. Un pwynt yn yr adroddiad oedd bod angen logo cyson, fel bod siaradwyr newydd ym mhob ardal o Gymru yn gwybod pa ddigwyddiadau sy’n addas iddyn nhw.

Mae Daniela Schlick yn wreiddiol o’r Almaen ac erbyn hyn yn byw yn Gerlan ger Bethesda. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015 ac mae hi nawr yn byw ac yn gweithio trwy’r Gymraeg pob dydd. Mae hi’n cydnabod bod mynd i weithgareddau a digwyddiadau cymunedol fel Panad a Sgwrs, Merched y Wawr a Côr Dros y Bont wedi ei helpu i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth. Mae hi eisiau rhoi’r hyder i unigolion eraill fwynhau defnyddio’r Gymraeg drwy wirfoddoli gyda Menter Iaith Bangor yn cynnal Peint a Sgwrs. Dywed;

“Mae cyfle i siarad iaith yn holl bwysig i fagu hyder a dysgu’n hollol naturiol. Mae mynychu gweithgareddau gwahanol yn y Gymraeg wedi fy helpu yn fawr ar fy nhaith. Dw i’n credu bod adnabod gweithgareddau sydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn mynd i helpu dysgwyr gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.”

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweld gweithgareddau’r Mentrau Iaith yn gyfleoedd pwysig i siaradwyr newydd gryfhau eu sgiliau Cymraeg a mwynhau’r iaith.  Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan:

“Mae sicrhau cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer y Gymraeg y tu allan i’w gwersi yn rhan ganolog o weledigaeth y Ganolfan i greu siaradwyr Cymraeg hyderus sy’n mwynhau defnyddio’r iaith yn eu cymunedau.  Bydd y logo newydd yma, sy’n rhan o bartneriaeth adeiladol rhwng y Ganolfan a’r Mentrau Iaith, yn helpu denu hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr i weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae amserlen o weithgareddau’r Mentrau Iaith ar gael yma.