Gornest Gwisiau Newydd i Ysgolion Dyffryn Aman a Dyffryn Tywi

Mae’r cwis ‘Dim Clem’ yn brosiect newydd sydd wedi’i ddatblygu gan Menter Bro Dinefwr sy’n bwriadu dod â disgyblion blwyddyn chwech ysgolion cynradd Dyffryn Aman a Dyffryn Tywi ynghyd mewn rownd derfynol arbennig fydd yn cael ei chynnal ym mis Mawrth.

Mae 18 ysgol gynradd yn cymryd rhan yn y cwis – gydag wyth cwis yn cael eu cynnal yn y rownd gyntaf cyn Nadolig. Bydd rownd y chwarteri a’r rownd gynderfynol yn cael eu cynnal yn ystod mis Ionawr a Chwefror.

Cynhaliwyd y cwis cyntaf yn Ysgol Gynradd Cwrt Henri ar ddydd Mawrth y 23ain o Dachwedd, ble aeth Ysgol Gynradd Cwrt Henri ac Ysgol Gynradd Talyllychau benben i ateb cwestiynau yn ymwneud â Chwaraeon, Daearyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol.

Mewn rownd agos iawn, coronwyd Ysgol Cwrt Henri’n fuddugol a byddant yn awr yn cystadlu yn rownd y chwarteri ac rydym yn dymuno’r gorau i Ysgol Gynradd Talyllychau ac yn diolch iddynt am gymryd rhan.

Dywedodd Glyn Jones, Swyddog Datblygu, Menter Bro Dinefwr:

“Rydym wrth ein bodd bod cynifer o ysgolion wedi cytuno i gymryd rhan yn y cwisiau. Mae’r cwisiau yn creu cyfleoedd i ysgolion cynradd ledled Dyffryn Aman a Dyffryn Tywi i gryfhau cysylltiadau lleol a rhoi hwb i’r defnydd o’r Gymraeg ymysg eu disgyblion.

Wrth fynd ati i greu’r cwisiau ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 6 rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn eu helpu i greu ffrindiau newydd mewn ysgolion eraill cyn mynd i’r ysgolion uwchradd, flwyddyn nesaf.

Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi.”

Os hoffech glywed mwy am waith Menter Bro Dinefwr, cofiwch hoffi eu tudalen Facebook a’u dilyn ar Twitter. Fel arall gallwch gysylltu â’u swyddogion yn uniongyrchol trwy ymweld â’r dudalen hon.