Mewn sesiwn stori a chân arbennig i ddisgyblion Ysgol Bro Alun, Gwersyllt, wedi’i drefnu gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ar ddydd Gwener y 9fed o Fawrth rhwng 1.30 a 2.30pm, bydd Eluned Morgan, Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn cyfarfod â’r cymeriad poblogaidd Magi Ann.

Mae Magi Ann bellach yn un o hoff gymeriadau plant bach Cymru, ac mae ei straeon ar chwech o apiau arbennig wedi, ac yn parhau, i helpu plant Cymru a gwledydd eraill ar draws y byd i ddysgu sut i ddarllen Cymraeg gyda’u rhieni mewn modd cyfoes, hwyliog a chyffrous.

Yn 2017, llwyddodd prosiect apiau Magi Ann ennill Gwobr Loteri Genedlaethol am y prosiect addysg gorau a bellach mae’r apiau wedi’u lawrlwytho dros 150,000 o weithiau.

Bydd y sesiwn yn Ysgol Bro Alun yn gyfle i’r Gweinidog weld yr ap ar waith fel enghraifft o waith y Fenter yn yr ardal.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhian Davies

01352 744 040

rhian@menterfflintwrecsam.cymru