Am y tro cyntaf eleni mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno tlws i wirfoddolwr/aig am gyfraniad nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Gall hyn gynnwys trefnu gweithgareddau yn y gymuned, cynorthwyo dysgwyr yn unigol ar gynllun megis Cynllun Siarad, a dysgu’n wirfoddol, neu waith wirfoddol arall i gefnogi dysgwyr Cymraeg.

Cyflwynir y tlws i’r buddugol mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd brynhawn Mawrth, 14 Mai.

Aled Roberts

Cafodd Aled Roberts ei eni a’i fagu yn Rhosllanerchrugog ger Wrecsam, ac mi aeth i Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon. Aeth yn ei flaen i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gweithio fel cyfreithiwr yn ardaloedd Wrecsam, Rhuthun a’r Wyddgrug. Roedd yn gyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a bu’n Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd.

Aled Roberts oedd Comisiynydd y Gymraeg rhwng 2019 a 2022.

Enwebiadau:

Gwahoddir enwebiadau ar gyfer y Tlws hwn erbyn 26 Ebrill.  Bydd yr enwebiadau’n cael eu sgorio yn erbyn y meini prawf isod.

  • Cyfraniad dros gyfnod o flynyddoedd.
  • Effaith gadarnhaol ar ddefnydd unigolion o’r Gymraeg yn sgil cyfraniad y person.
  • Person y gall ei weithgaredd sbarduno unigolion eraill

Cer i wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am fwy o wybodaeth a’r ffuflen enwebu.