Mae Richard Owen, o brosiect Bocsŵn, un o gynlluniau Menter Iaith Môn ar gennad i wneud cerddoriaeth yn ganolog i brofiadau’r ifanc a’r hŷn yng nghymunedau Môn.

Uchafbwynt cwrs ukuleles i breswylwyr Hafan Cefni a mynychwyr o Heneiddio’n Dda oedd recordio eu cyflwyniad o ‘Calon Lân’. Mewn adborth, cytunodd y mynychwyr oll eu bod wedi elwa o’r sesiynau fel cyfrwng i gymdeithasu, dysgu sgiliau newydd, a chael hwyl.

Eglurodd un o’r mynychwyr, John Harris, sy’n ddysgwr Cymraeg:

“Ymunais oherwydd yr awyrgylch braf a’n bod yn dysgu rhywbeth newydd bob tro yn ogystal â chyfarfod pobl newydd. Mwynheais ddysgu canu Calon Lân”.

Hefyd yn mynychu roedd Margaret Peters a ddywedodd:

“Da ni’n cymdeithasu a chael hwyl, ac mae Richard yn dda iawn hefo ni. Ma gyno fo ffordd dda o ddysgu.”

Esboniodd Richard Owen:

“Mae Bocsŵn yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob oedran i fwynhau creu cerddoriaeth. Rydym yn cynnig sesiynau yn yr ysgolion, yn y gymuned ac i grwpiau penodol. Mae wedi bod yn brofiad hyfryd gweithio gyda’r grŵp sy’n cyfarfod yn Hafan Cefni wrth iddynt fagu profiad a sgiliau newydd tra’n cael andros o hwyl.”

Criw o chwaraewyr ukuleles Hafan Cefni a Heneiddio’n Dda fu wrthi’n recordio’u perfformiad gyda Richard Owen, Bocsŵn (cefn 4ydd o’r dde).

Criw o chwaraewyr ukuleles Hafan Cefni a Heneiddio’n Dda fu wrthi’n recordio’u perfformiad gyda Richard Owen, Bocsŵn (cefn 4ydd o’r dde).

 

Mae Bocsŵn wrthi’n lansio Cerddorfa Ieuenctid Ukuleles Môn i blant a phobl ifanc rhwng 5-18, fydd yn dechrau ar yr 2il o Fai yn Stiwdio 12, Llangefni. Bydd ukuleles ar gael i’w defnyddio, felly am wybodaeth bellach am y grŵp oed cynradd, rhwng 4-5pm, a’r grŵp oed uwchradd, rhwng 5:30-7pm, galwer neu ebostiwch Rich 01248 725700 07717366790 rich@mentermon.com.

Dywedodd Nia Thomas, sy’n arwain Menter Iaith Môn:

“Mae Richard Owen ar gennad i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg fel elfen ganolog i gyfoethogi Môn. Bwriad Cerddorfa Ieuenctid Ukuleles Môn yw hyfforddi rhwydwaith o gerddorion ifanc ar draws yr ynys, fydd, yn y dyfodol, yn ased i’w cymunedau mewn digwyddiadau neu drwy godi arian i elusen.”

I’r rhai nad ydynt yn rhydd i fynychu sesiynau Bocsŵn, mae cyfle i ddechrau ar y dysgu drwy wylio wyth o wersi ukuleles Cymraeg, rhad ac am ddim, ar sianel You Tube ‘Bocsŵn’.

Menter gymdeithasol yw Menter Iaith Môn sy’n darparu cyfleoedd i bobl o bob cefndir ieithyddol i fwynhau gweithgareddau hwyliog yn y Gymraeg.