Eleni, mae Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Maldwyn yn gofyn i ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod i rannu eu geiriau a’u hymadroddion unigryw mewn Bwth Tafodiaith ar y maes, bydd modd gwneud hyn ar ffurf fideo, lluniau a chlipiau sain.

Mae’r Prosiect Tafodiaith yn cynnwys gweithdai celf lle bydd cyfle i greu eich gwaith celf eich hunain gydag artist ac ychwanegu’r gweithiau hyn i greu cywaith o dafodiaith mewn papur bro anferth. Bydd hyn oll yn cael ei gynnal ar stondin M47/M48 Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Maldwyn yn ystod yr wythnos.

Dywedodd Mererid Haf Roberts, Prif Swyddog Menter Iaith Maldwyn, “Mae’r Gymraeg yn iaith gyfoethog iawn ac iddi ei thafodieithoedd unigryw sy’n perthyn i bob rhan o Gymru. Ryden ni’n teimlo’n gryf bod yr elfen o berchnogaeth dros y math o Gymraeg rydym yn ei siarad yn hynod bwysig i’w chynnal fel iaith naturiol, amrywiol a bywiog. Mae’r Prosiect Tafodiaith yn dathlu y Giêth Fêch a’r Wês Wês. Mae’n cynnig cyfle arbennig i ni gasglu geiriau tafodieithoedd gan unigolion o bob oed, o bob rhan o Gymru.

Ychwanegodd:

“Ryden ni eisiau fod pobol yn dathlu eu Cymraeg mewn ffordd hwyliog ar faes yr Eisteddfod a pha ffordd well o wneud hyn na chreu cywaith gweledol o amryfal leisiau’r Gymraeg.”