Mae Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, y sefydliad sy’n arwain Canolfan Iaith Gymraeg, Canolfan Soar a’r theatr gymunedol, Theatr Soar, wedi ei dyfarnu ag achrediad sy’n bodloni Safon Buddsoddwyr mewn Pobl, gan arddangos ymrwymiad y Ganolfan i berfformiad uchel drwy reoli pobl yn dda.

Mae Canolfan Soar a Theatr Soar wedi eu lleoli ym Mhontmorlais yng nghanol tref Merthyr Tudful, gan ddarparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.

Mae’r sefydliad wedi llwyddo o ran integreiddio’r iaith Gymraeg i’r gymuned ehangach ddi-Gymraeg ei hiaith drwy weithio mewn partneriaeth a darparu gwasanaethau ac adnoddau o ansawdd sydd wedi eu prisio’n rhesymol i holl bobl Merthyr.

Safon ryngwladol ar gyfer rheoli pobl yw Buddsoddwyr Mewn Pobl, sy’n diffinio’r hyn sy’n gynwysedig wrth arwain, cefnogi a rheoli pobl yn effeithiol i gyflawni canlyniadau cynaliadwy.

Yn danategol i’r Safon mae fframwaith Buddsoddwyr Mewn Pobl, sy’n adlewyrchu tueddiadau diweddaraf y gweithle, sgiliau hanfodol a strwythurau effeithiol sy’n ofynnol i berfformio’n well mewn unrhyw ddiwydiant. Mae Buddsoddwyr Mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y gorau yn y busnes ar raddfa ryngwladol.

Dywedodd Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr Mewn Pobl:

“Hoffem longyfarch Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful. Mae achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl yn arwydd o gyflogwr gwych, gweithle sy’n perfformio’n well ac ymrwymiad clir at lwyddo. Dylai Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful fod yn hynod o falch o’r llwyddiant hwn.”

Wrth wneud sylw am y wobr, dywedodd y Prif Weithredwr, Lisbeth McLean:

“Rydym yn falch iawn o’r gwahaniaeth mae Canolfan Soar a Theatr Soar wedi ei wneud i’n cymuned ac o ddatblygiad yr iaith Gymraeg ym Merthyr Tudful. Mae’ gwobr fel hon yn dystiolaeth o ymrwymiad pawb yn ein tîm tuag at eu gwaith.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch Buddsoddwyr Mewn Pobl ewch i www.investorsinpeople.com