Am y tro cyntaf eleni, mae Mentrau Iaith Cymru yn cynnal cystadleuaeth genedlaethol i annog bobl ymhob rhan o Gymru i fynd ati i greu bwganod brain.

Yn aml iawn, mae creu bwgan brain yn gystadleuaeth poblogaidd mewn sioeau bach lleol ar draws y wlad, ond gyda’r sioeau hyn wedi’u canslo neu ohirio ar hyd a lled Cymru eleni, mae’r Mentrau am gynnal y gystadleuaeth hon i godi calon a dod â chymunedau ar draws Cymru ynghyd i gystadlu i ddarganfod Bwgan Brain Gorau Cymru a phencampwr Brwydr y Bwgan Brain 2020.

Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yr hyn sy angen i chi wneud yw creu bwgan brain ar thema ‘Cymru’. Anogir cystadleuwyr i ailddefnyddio ac ailgylchu’r hyn sydd ganddynt yn eu tai neu eu siediau eisoes a bod mor greadigol â phosib. Mi fydd angen i chi osod eich bwgan brain mewn safle diogel ac addas a gyrru llun o’ch campwaith i’ch Menter Iaith leol erbyn dydd Llun, 3ydd o Awst. Rhannwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #bwganbrain.Bwgan Brain

Mi fydd enillydd pob ardal yn mynd ymlaen i’r rownd genedlaethol i gystadlu am wobr arbennig Brwydr y Bwgan Brain 2020 sef darlun unigryw a lliwgar o waith yr artist Rhys Padarn Jones. Y cyflwynydd radio a theledu adnabyddus a phoblogaidd Ifan Jones Evans fydd yn cael y dasg o feirniadu’r rownd genedlaethol a mi fydd Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi’r enillydd cenedlaethol ar ddydd Llun, 17eg o Awst.

I gystadlu yn y rowndiau lleol, cysylltwch gyda’ch Menter Iaith leol a gyrrwch eich llun draw atynt erbyn y 3ydd o Awst. Am y diweddaraf ynghylch y gystadleuaeth dilynwch #bwganbrain ar y cyfryngau cymdeithasol.