Mae gŵyl flynyddol Ffiliffest, sy’n cael ei chynnal gan Menter Caerffili, ymlaen ddydd Sadwrn, Mehefin 19.

Eleni mae’r ŵyl yn ddigidol, sy’n rhoi blas o’r hyn byddai wedi ymddangos o fewn waliau Castell Caerffili; cerddoriaeth fyw, celf a chrefft, stondinwyr lleol, plant yr ardal yn dawnsio gwerin a mwy.

I weld yr amserlen lawn cer i wefan Ffiliffest.

Un digwyddiad arbennig sy’n rhan o’r arlwy yw ‘Sgwrs gyda Non Parry’.

Fe fydd rhai yn adnabod Non fel aelod o grŵp Eden neu am ei phodlediadau mwy diweddar, ‘Digon’ yn trafod materion lles a iechyd meddwl. Ymuna â’r sgwrs i glywed am brofiadau Non nos Wener, Mehefin 18 am 7.30pm a cofia gofrestru ymlaen llaw yma.