Rhowch y Gymraeg yn yr hosan ’Dolig a mwynhewch y Gymraeg adref dros y gwyliau yw’r neges gan Menter Iaith Môn i deuluoedd Cymru, wrth lansio cyfres newydd Selog o apiau ‘Ioga’, ‘Canu 2’ a ‘Symud’ yn yr awyr agored.

Bu ymateb gwych eisoes i dreialu’r ap ‘Ioga Selog’ gyda Leisa Mererid sy’n cynnwys 12 safle ioga, delweddau trawiadol, a dilyniant hawdd i’w cofio. Mae’r ap ‘Canu 2 Selog’ yn cynnwys ffefrynnau fel ‘Pen, Ysgwyddau’ a ‘Pren ar y Bryn’ yn ogystal â tiwn dysgu’r wyddor, dyddiau’r wythnos a’r misoedd i ddysgwyr Cymraeg. Yn ogystal, bu brwdfrydedd mawr gan y teuluoedd fu’n treialu’r ap ‘Symud Selog’ gan ei fod yn gyfuniad o adnabod enwau natur a thynnu lluniau fel cofnod, yn ogystal â rhigymau ffitrwydd awyr agored sy’n cynnwys sgipio, sgiliau pêl, a chlapio i rigwm ‘Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch’! Yr ap perffaith ar gyfer dysgwyr Cymraeg mentrus.

Esboniodd Nia Thomas ar ran Menter Iaith Môn:

“Mae apiau Selog yn mynd o nerth i nerth. Datblygwyd apiau ‘Canu’ a ‘Darllen’ gwreiddiol Selog yn 2017 mewn ymateb i gais rhieni di-Gymraeg Caergybi am adnoddau i gefnogi eu plant yn y cartref. 19,000 lawrlwythiad yn ddiweddarach, fe ddaeth yn amlwg fod apêl yr apiau yn ymestyn ar draws Cymru ac yn wir mor bell â Japan a Phatagonia. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn am y grant gan Gronfa Cymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru sydd wedi ein galluogi i ddatblygu’r tri ap diweddaraf ‘Ioga’, ‘Canu 2’ a ‘Symud’ a’r cyfle i’w treialu gyda theuluoedd Caergybi. Ein hapêl dros y gwyliau Nadolig yw i deuluoedd ganiatáu i’r Gymraeg barhau o’r ysgol i’r cartref drwy gynnwys apiau Cymraeg Selog ar y teclynnau digidol a ddefnyddir gan y plant. Anrheg yw’r Gymraeg byddent yn ei werthfawrogi ymhell i’r dyfodol.”

Mae pump ap di-dâl Selog ar gael i bawb ar draws Cymru a thu hwnt i’w lawrlwytho ar eu ffonau iPhone neu Android, neu declynnau iPad a thabled. Mae’r adnodd yn cefnogi amcanion Menter Iaith Môn, Mentrau Iaith Cymru a Llywodraeth Cymru o sicrhau bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wrth i nifer gynyddol o rieni weld mantais gymdeithasol, addysgiadol a gyrfaol i’w plant o fod yn ddwyieithog, mae adnoddau hwyliog trochi Cymraeg, megis apiau Selog a Magi Ann, yn ennyn poblogrwydd fel modd o gefnogi datblygiad plant yn y cartref. Adborth cyffredin o ddefnyddio ap Selog yw’r un a gafwyd gan riant di-Gymraeg ardal Caergybi “My daughters and I had a great time! Please keep up the great work, we need more activities in the medium of Welsh for our kids to thrive in Welsh!”

Selog-LogoDatblygwyd apiau Selog gan Menter Iaith Môn. Ariannwyd y tri ap newydd, a’r 13 gweithgareddau cymunedol cysylltiedig, drwy grant Arian i Bawb y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cynhyrchwyd yr apiau gan gwmni SbectolCyf, a bu’r arbenigwraig ioga i blant, Leisa Mererid, a’r hyfforddwraig ffitrwydd a symud Eirian Williams yn cyfrannu eu harbenigedd i ddatblygu’r gweithgareddau. Richard Owen, Bocsŵn fu’n arwain ar y canu a chafwyd cyfraniad arbennig gan y gyfansoddwraig Ceri Gwyn sydd wedi rhannu ei chân Gŵyl Dewi ‘Mis Mawrth Unwaith Eto’ ar ap ‘Canu 2’.