Heddiw, yn Eisteddfod yr Urdd, Caerffili, fe fydd Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn lansio Memorandwm Cydweithio sy’n amlinellu dymuniadau a bwriad y ddau fudiad i barhau i gydweithio yn agos er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg.

Mae Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn awyddus i weld cydweithio effeithiol rhwng yr holl bartneriaid sy’n gweithio i hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg a sicrhau parhad i gydweithio effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru,

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn enghraifft wych o lwyddiant cydweithio rhwng nifer o bartneriaid i sicrhau gŵyl lwyddiannus.  Rydym yn ddiolchgar i Fenter Caerffili a Mentrau Iaith Cymru am eu cefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch.

Rydym yn ffyddiog y bydd ffurfioli’r berthynas rhyngom ymhellach yn ein cynorthwyo i sicrhau parhad y cydweithio ar lefel strategol, yn enwedig wrth i ni ddatblygu ein gweithgareddau i’r dyfodol.”

Wrth ddatblygu’r memorandwm hwn, mae’r ddau fudiad yn ymrwymo i gefnogi a datblygu diwylliant o gydweithio er lles y Gymraeg.

Dywed Emily Cole, Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith yn cydweithio’n agos â Swyddogion a Changennau yr Urdd hyd a lled Cymru, ac mae’r union ffyrdd o gydweithio’n amrywio yn dibynnu ar  yr anghenion a’r cyfleoedd lleol, ac mae’r hyblygrwydd a’r amrywiaeth yn ddi-os yn gryfder mawr.

“Ar lefel leol yma yng Nghaerffili mae’r Fenter, yr Urdd a’r Cyngor Sir wedi dod at ei gilydd i gyflogi Swyddog Ieuenctid ar y cyd sydd wedi arwain at ddatblygu nifer o brosiectau a gweithgareddau newydd, gan gynnwys clwb ieuenctid llwyddiannus cyfrwng Cymraeg,  efallai na fyddai wedi bodoli fel arall.”

Ychwanegwyd: “Ein gobaith a’n bwriad, wrth ddatblygu a gweithredu’r memorandwm hwn yw sicrhau bod yr arfer hon o gydweithio yn parhau ym mhob ardal,”