Neithiwr mewn cinio ffarwelio arbennig i Dîm Cymru fe gyflwynodd y Mentrau Iaith 23 pêl anferth i Ashley Williams, Gareth Bale ac Andy King ar ran Tîm Cymru. Mae’r peli wedi bod yn crwydro’r wlad i gasglu negeseuon o gefnogaeth fel rhan o ‘Ymgyrch y Bêl, pasio’r bale dros Gymru.’

Gyda dros 20,000 o lofnodion a negeseuon Cymraeg wedi eu hysgrifennu arnynt fe luniodd y peli ddwy res wrth ymyl y carped coch wrth fynedfa’r digwyddiad.

Dywedodd Ashley Williams, Capten Tîm Cymru:

“Ar ran y garfan hoffwn i ddiolch i bawb a lofnododd y peli. Mae gweld negeseuon fel hyn gan gymunedau ar draws Cymru yn hwb aruthrol i ni.”

“Diolch i’r Mentrau Iaith am gasglu’r gefnogaeth, roedd yn syniad gwych ac mae’n braf gwybod fod cymaint o gefnogaeth inni drwy’r wlad. Diolch Cymru. “

Yn sôn am y digwyddiad, dywedodd Adam Jones, Swyddog Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru:

“Mae gweld Cymru yn llwyddo mewn unrhyw faes chwaraeon yn codi hyder a phroffil y wlad yn fyd-eang. Mae Tîm Pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi llwyfan i Gymru ac i’r Gymraeg, nas gwelwyd ei debyg o’r flaen.”

“O gasglu’r negeseuon o gefnogaeth, ein neges yn syml yw annog cefnogwyr i droi at y Gymraeg a defnyddio’r iaith yn fwy wrth gefnogi Cymru yn Ewro 2016. Yn symbolaidd, mae’r weithred o basio’r bêl ymlaen i ddangos cefnogaeth a sicrhau llwyddiant yn un y gallwn ei briodoli i’r angen i bawb rannu a throsglwyddo pa bynnag Gymraeg sydd ganddynt i’r person nesaf.”

Bydd cyfres o fideos yn cael eu paratoi i’w rhannu yn ystod y bencampwriaeth fydd yn galw ar gefnogwyr i floeddio C’mon Cymru yr haf hwn.

Dilynwch #CmonCymru a #DiolchCymru i weld y lluniau a’r clipiau o gefnogaeth. Pob lwc Cymru!