Casglu tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg am glywed eich profiadau – da neu wael – o ddefnyddio’r Gymraeg yn y:
• feddygfa  • fferyllfa  • deintyddfa  • optegydd
Hefyd gyda nyrsys practis, timau amlddisgyblaethol yn y gymuned a llinell Galw Iechyd Cymru.
Rydym eisiau clywed am effaith profiadau o dderbyn neu fethu â derbyn gwasanaeth gofal sylfaenol yn Gymraeg.
Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi cael profiad fel claf neu ddefnyddiwr, aelodau teulu neu gynhalwyr neu ofalwyr yn y 12 mis diwethaf.
Am fwy o wybodaeth neu i gyflwyno tystiolaeth ewch i’r wefan:
comisiynyddygymraeg.org
Mae’n bwysig cael nifer dda o siaradwyr Cymraeg yn rhoi eu safbwyntiau ac adrodd eu profiadau i’r Comisiynydd. Mae sawl ffordd o gyfrannu:
• Ffurflen ar-lein ar wefan y Comisiynydd  • Ffurflen drwy’r post (gallwn anfon un allan)  • E-bost  • Gohebiaeth arferol  • Galwad ffôn (gallwn drefnu eich ffonio)  • Mynychu un o’r digwyddiadau cyhoeddus ym mis Medi/Hydref.
Bydd y Comisiynydd yn cynnal digwyddiad cyhoeddus ar 3 Hydref yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst am 3.00-4.00 p.m. Croeso i bawb.
Y dyddiad cau am dystiolaeth yw 11 Hydref 2013
Gallwch ffonio
0845 6033221 neu e-bostio:
YmholiadIechyd@comisiynyddygymraeg.org