Ymgyrch Addysg Gymraeg

Yr wythnos hon fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch yn rhoi gwybodaeth ac yn codi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog, Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg?

 

Prif nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog fel bod rhieni a gofalwyr yn gallu ystyried y dewisiadau sydd ar gael.  Bydd yr ymgyrch yn cynnwys nifer o elfennau gwahanol gan gynnwys hysbysebu yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol yn ogystal â digwyddiadau lleol yng Nghaerffili, y Rhyl, Merthyr Tudful a Llanelli.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Dydy rhieni ddim bob amser yn ymwybodol o ysgolion cyfrwng Cymraeg neu maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael gwybodaeth am ysgolion o’r fath. Bydd yr ymgyrch hon fydd yn para am dair blynedd yn codi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog fel y gall rhieni wneud eu penderfyniad ar sail yr holl wybodaeth sydd ar gael ar eu cyfer.”

Gallwch gefnogi a dilyn yr ymgyrch ar y rhwydweithiau cymdeithasol
https://www.facebook.com/pages/Choice-Dewis/231952990307165?ref=hl

@iaithfyw

Welsh Pack FINAL_Page_06

Welsh Pack FINAL_Page_07
Welsh Pack FINAL_Page_08