Eleni, mae Menter Cwm Gwendraeth Elli, y Fenter Iaith gyntaf yn dathlu ei phen-blwydd yn 25.

Mewn diwrnod arbennig o ddathlu ar stondin Mentrau Iaith Cymru, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd cyflwyniad i hanes, datblygiad a chynlluniau Menter Cwm Gwendraeth Elli i’r dyfodol.

Yn ogystal bydd cyfle i glywed mwy am rai o brosiectau mwyaf arloesol y fenter fel ‘Menter Min Nos – y Gymraeg wrth galon gwasanaethau gofal gymdeithasol’ yn ogystal â pharti pen-blwydd mawreddog am dri o’r gloch yng nghwmni Cadeirydd y Fenter, Gwyn Elfyn a nifer o wirfoddolwyr lleol.

Dywed Nerys Burton, Prif Weithredwr Menter Cwm Gwendraeth Elli:

“Mae eleni yn flwyddyn arwyddocaol iawn yn hanes y Fenter ac mae’r
dathliadau yn eu hanterth yn barod. Dewch i ymuno â ni yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni ddydd Iau, wrth i ni ddathlu bod Menter Iaith gyntaf Cymru yn cyrraedd carreg filltir arbennig iawn.”

“Pan sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth Elli, nôl yn 1991, roedd Cymru yn wlad dra wahanol a’r Gymraeg yn wynebu heriau go sylweddol.

Rydym bellach, yn 2016 mewn gwlad sydd wedi newid yn llwyr gyda dyfodiad datganoli, atgyfnerthu deddfwriaeth Iaith a chonsensws gwleidyddol dros ddiogelu’r Gymraeg. Nid yw hyn, fodd bynnag yn golygu nad oes mwy gennym i’w wneud i feithrin y Gymraeg fel Iaith gymunedol, naturiol yng Nghwm Gwendraeth a Llanelli.”

Dywed llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn mawr obeithio y cawn ni’ch cwmni ddydd Iau er mwyn i ni gael cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at waith y Mentrau Iaith dros y chwarter canrif diwethaf, yn ogystal ac edrych i ddatblygu perthnasau newydd, i gydweithio’n llwyddiannus ar gynlluniau a phrosiectau Iaith yn y blynyddoedd sydd i ddod.”