Mae pump o’r Mentrau Iaith wedi derbyn grantiau gwerth £105,449.63 o Grant Arloesi Llywodraeth Cymru, rhan o’r strategaeth y Llywodraeth i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050.

Newyddion cyffrous iawn i’r Mentrau Iaith gyda’r prosiectau i gyd yn canolbwyntio ar sut i gynyddu’r defnydd o’r iaith drwy arloesedd a thechnoleg.

Dyma flas i chi o brosiectau’r Mentrau sydd wedi cael eu hariannu:

Cered £13,400.00 Prosiect peilot: clybiau codio yn Ne Orllewin Cymru.
Cered £17,100.00 Prosiect i droi llyfr poblogaidd “Caneuon Bys a Bawd” yn adnodd rhyngweithiol ar ffurf app.
Menter Caerdydd £15,820.00 Prosiect i gynyddu cynnwys digidol Cymraeg drwy brosiect Wici Caerdydd , sydd â’r nod o gynyddu nifer yr erthyglau Cymraeg sydd ar gael ar Wicipedia, a phrosiect i hybu’r Gymraeg drwy Snapchat.
Menter Iaith Abertawe £20,000.00 Datblygu ap i hyrwyddo iechyd a lles, e.e. myfyrio ac yoga.
Menter Iaith Caerffili £19,955.63 Prosiect i greu cymuned newydd leol ar-lein yng Nghaerffili. Bydd hyn yn cynnwys datblygu clybiau a gweithgareddau wythnosol a misol, cyfleoedd gwirfoddoli a sianeli digidol ar-lein newydd.
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf £19,174.00 Dylunio gêm Gymraeg sythweledol ar ffurf antur episodig ar gyfer y llwyfan Steam.

 

I ddarllen mwy am y Grant Arloesi ewch i wefan www.llyw.cymru