Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn edrych ymlaen i barhau i weithredu er mwyn datblygu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned, yn dilyn cyhoeddiad Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar Orffennaf 11eg, 2017.

Gweledigaeth Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050 a chynyddu’r defnydd o’r iaith. Dywed Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r 22 Menter leol:

“Rydym yn gweld rôl y Mentrau Iaith fel un hanfodol er mwyn cyrraedd y targed hwn, wrth annog pobl i ddysgu a defnyddio’r iaith. Trwy hwyluso cyfleoedd anffurfiol i bobl gymdeithasu a mwynhau o ddydd i ddydd yn Gymraeg, a chefnogi cymunedau i berchnogi’r iaith, gallwn gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r iaith ar draws Cymru. Rydym yn croesawu’r strategaeth uchelgeisiol newydd hon sy’n tanlinellu pwysigrwydd rôl cymunedau i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a ffyniannus.”

Atega Meirion Davies, Prif Swyddog Menter Iaith Conwy:

“Croesawn y strategaeth arloesol yma sydd am gynyddu niferoedd o siaradwyr Cymraeg a’r defnydd ohoni.  Mae’n dda gweld hyn yn cael ei chydlynu gyda chynyddu nifer o wasanaethau a gweithleoedd Cymraeg yn ogystal â chyfeirio at ddiogelu cymunedau Cymraeg eu hiaith trwy feysydd dylanwadol megis cynllunio gwlad a thref, datganoli swyddi i’r ardaloedd yma a buddsoddiad mewn entrepreneuriaeth.”