Mae Menter Iaith Sir Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer olaf ar gyfer y wobr Defnydd Gorau o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2019, a gynhelir ar 15 Tachwedd.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn gynllun newydd sbon gan CGGC sy’n cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru

Clwb Gemau Fideo Menter Iaith Sir Caerffili 

Dyma elusen sydd yn rhoi’r iaith ar waith, wrth iddynt gyflwyno rhaglen amrywiol o gyfleoedd digidol Cymraeg, gan gynnwys Clwb Gemau Fideo i bobl ifanc rhwng 11-16 mlwydd oed. Pwrpas y Clwb yw chwarae gemau fideo, i gymdeithasu a chreu fideos ar gyfer Sianel YouTube o’r enwGemau Fideo‘.  

Yn ystod gwyliau ysgol mae Menter Caerffili hefyd yn darparu rhaglen gyffrous o gyfleoedd i blant oedran cynradd i gymryd rhan mewn gweithgareddau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys animeiddio lego ac ati. 

Cynhelir y Clwb Gemau Fideo bob dydd Mercher yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac yn ystod y gwyliau a hanner tymor. Wrth greu fideos yn y Gymraeg, mae’r elusen yn mynd ati i gynyddu cynnwys digidol Cymraeg ar gyfer pobl ifanc, sy’n bwysig iawn er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc. Mae pob un aelod yn cael y cyfle i feithrin sgiliau digidol ond yn bwysicach fyth mae’r clwb yn magu hyder y bobl ifanc i siarad Cymraeg gyda’u ffrindiausef un o brif amcanion y clwb. 

Mae’r Clwb yn boblogaidd iawn ymysg y sawl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth hefyd, gan fod modd ymarfer sgiliau cymdeithasol fel rhan o’r sesiynau – ac hynny yn y ddwy iaith. Mae cyfraniad gwirfoddolwyr ifanc wedi bod yn allweddol wrth gwrs, yn enwedig wrth weithio â phlant gyda’r anghenion arbennig hyn. Yn hynny o beth, mae Menter Caerffili wedi trefnu hyfforddiant i staff ar sut i gefnogi plant â awtistiaeth, ac mae hyn oll yn talu ffordd o ran y Gymraeg.  

EJLOFHwWsAENlDr

Dywed Morgan Roberts, Swyddog Datblygu Cymunedol y fenter;

Mae’r enwebiad yn newyddion gwych a ry’n ni’n falch ofnadwy i weld fod y gwaith caled wedi derbyn cydnabyddiaeth. Rhaid defnyddio technoleg i sbarduno plant i ddefnyddio’r iaith mor aml â phosib, ac mae Gwobrau’r WCVA yn gyfle i hyrwyddo’r cyfleoedd rydym yn darparu yn y maes hwn yn ogystal â’r gwaith ehangach ry’n ni’n gwneud i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymysg y gymuned leol.” 

Noddir y wobr Defnydd Gorau o’r Gymraeg gan ateb ac mae’n profi i fod yn cystadleuaeth anodd, gyda rhestr o mudiadau gwych yn gweithio dros sector gwirfoddol Cymru 

Chwalodd y beirniaid 180 o enwebiadau o bob cwr o’r wlad i restr fer o ddim ond 30 o fudiadau a gwirfoddolwyr. 

Bydd y Gwobrau, a noddir gan Class Networks, yn cael eu cyflwyno mewn seremoni ar 15 Tachwedd yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd 

I gael mwy o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, ewch i: gwobrauelusennau.cymru