Mae 2018 yn flwyddyn fawr i Fenter Bro Ogwr yn dathlu’r garreg filltir o gyrraedd chwarter canrif ers ffurfio.

Ar Dachwedd 23ain bydd Menter Bro Ogwr yn cynnal Cinio Gala yng Ngwesty Heronston, Penybont-ar-Ogwr gyda diddanwyr lleol sydd wedi gweld gwerth mawr yng ngwaith y fenter dros y blynyddoedd.

Dywed Gracie Richards o Faesteg, cantores ifanc fydd yn perfformio yn ystod y digwyddiad; 

“Mae’r Fenter Iaith wedi agor nifer o ddrysau i mi fel perfformiwr gan helpu i mi gael gigs mewn llefydd fel yr Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl Ogi Ogi Ogwr.

Rydw i wedi bod yn chwarae’r gitâr ac yn ysgrifennu fy nghaneuon am 7 mlynedd ac wedi bod yn gigio am bron i 3 blynedd bellach gan gynnwys y rhai a drefnir gan y Fenter. Maent hefyd yn wych yn codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal, gan annog pobl ifanc i wirfoddoli mewn digwyddiadau.”

Gracie Richards

Rhys Upton fydd yn darparu’r disgo ar ôl y perfformwyr ar y noson tan yn hwyr. Dechreuodd Rhys Upton, DJ o Flaengarw, ei fusnes ei hun, ‘Adloniant Rhys Upton Entertainment’ yn dilyn cefnogaeth gan Fenter Bro Ogwr. Trwy fynychu clybiau’r Fenter, datblygodd e sgiliau i ddefnyddio offer newydd, derbyniodd e wybodaeth ar ddechrau busnes a gwella ei wybodaeth am gerddoriaeth Gymraeg. Dywed Rhys;

“Dechreuais wirfoddoli gyda Menter Bro Ogwr, yn cynorthwyo yn eu digwyddiadau. Yna sylweddolais fod yna ofyn mawr i DJs dwyieithog sy’n chwarae caneuon Cymraeg. Mae’r Fenter Iaith yn gwneud llawer o waith caled i gefnogi’r sin Gymraeg yn yr ardal, yn trefnu gigs o gwmpas Pen-y-bont fel ‘Cerdd yn y Cwrt’. Rwy’n mwynhau chwarae cerddoriaeth Gymraeg mewn digwyddiadau lleol, a dw i’n teithio ar draws De Cymru gyda fy ngwaith. Ond rwy’n dal yn mwynhau helpu gyda’r Fenter Iaith pan alla i.”

Yn ogystal â’r bobl ifanc talentog yma bydd band Gwyr Y Stac yn perfformio. Grŵp Gwerin Cymraeg sy’n hoffi gweithio gyda’r dorf am noson arbennig.

Yn ogystal â gweithio gyda phobl ifanc y sir, mae’r Fenter yn hyrwyddo ac yn annog defnydd o’r iaith ymysg teuluoedd, dysgwyr a chymunedau. Maent yn cynhyrchu adnoddau arbennig fel y Llyfryn Poced Enwau Lleoedd yn arbennig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf Elai gan weithio’n agos gyda’r gymuned leol i ateb anghenion lleol.

Dywed Amanda Evans, Prif Swyddog Menter Iaith Bro Ogwr;

“Rwy’n berson oedd wedi cael fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi mynd trwy addysg Gymraeg yn y Sir ac yna wedi’i phenodi fel Swyddog Ieuenctid i’r Fenter 17 mlynedd yn ôl.  

Cefais i fy mhenodi wedyn fel Prif Swyddog i fod yn gyfrifol am brosiect sydd mor agos at fy nghalon, hynny yw sicrhau codi proffil y Gymraeg a chynnig cyfleoedd i drigolion o bob oedran i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg pob dydd.

Rwyf mor falch fy mod wedi cael y cyfle i siarad iaith y nefoedd yn y gwaith a chael y fraint o gwrdd â chymaint o bobl o bob oedran dros yr 17 mlynedd diwethaf. Er mwyn helpu i godi eu hyder yn y gymuned i siarad yr iaith, eu helpu i fynd am swyddi trwy gyfrwng y Gymraeg a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i sicrhau didueddrwydd a’r cyfle i bawb ddefnyddio’r Gymraeg fel yr hoffan nhw.

Gyda’r holl heriau a chymaint o brosiectau dydw i ddim yn gallu credu pa mor gyflym mae’r amser wedi mynd. Menter Bro Ogwr yn dathlu chwarter canmlwyddiant, WAW! Rwyf mor falch o’r gefnogaeth rydym yn derbyn a gwir yn edrych ymlaen at ddathlu’r Pen-blwydd mawr yma gyda phawb.”

Bro Ogwr