Eto eleni, mae’r Mentrau Iaith yn trefnu a chefnogi llu o wyliau a gigs cerddorol i deuluoedd, plant a phobl ifanc dros Gymru.

Maent wedi eu casglu i’r llyfryn yma. Beth am edrych i weld os oes digwyddiad yn eich ardal chi?


 

Un o’r gwyliau sy’n cael eu trefnu gan Fenter Iaith yw Ffiliffest sy’n cael ei chynnal yng Nghastell Caerffili. Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn falch iawn i gyhoeddi eu bod yn cydweithio â Y Selar i ychwanegu gig nos at arlwy’r ŵyl ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin eleni.

Bydd pedwar o fandiau ifanc mwyaf addawol y sin yn perfformio ar y noson sef Chroma, Mellt, Wigwam a’r grŵp lleol, Y Sybs.

Mae’r ŵyl deuluol, â gynhelir yn lleoliad unigryw ar arbennig iawn Castell Caerffili, wedi ei sefydlu ers rhai blynyddoedd bellach. Ac er bod llwyfan perfformio ar gyfer cerddoriaeth wedi llunio rhan o’r arlwy yn ystod y dydd yn y gorffennol, dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gynnal gig gyda’r hwyr.

Menter Caerffili sy’n gyfrifol am drefnu Ffiliffest, ond mae Y Selar yn gyfrifol am drefnu arlwy gerddorol llwyfan perfformio’r ŵyl yn ystod y dydd eleni, ac hefyd wedi arwain y prosiect o gyflwyno digwyddiad nos.

“Roedd Ffiliffest wedi dal ein llygad fel gŵyl fach hyfryd mewn lleoliad eiconig, felly ro’n i’n awyddus iawn i gyd-weithio gyda Menter Caerffili” meddai Owain Schiavone o’r Selar.

“Ro’n i’n gweld bod cyfle i ddatblygu arlwy cerddorol yr ŵyl yn ystod y dydd ar y naill law, ond ar y llaw arall hefyd yn teimlo mai’r cam naturiol nesaf oedd cyflwyno gig gyda’r hwyr fyddai’n ehangu’r gerddoriaeth, ond hefyd yn apelio at gynulleidfa ychydig yn wahanol i un y dydd.

“Mae ‘na rhyw ramant ynglŷn â gig mewn castell hefyd, yn enwedig gyda’r hwyr wrth iddi dywyllu – bydd yr awyrgylch yn arbennig iawn.”

Y nod yn ôl Morgan Roberts o Fenter Caerffili ydy ehangu cyrhaeddiad yr ŵyl:

“Mae Ffiliffest yn ŵyl lwyddiannus iawn, ac yn arbennig o boblogaidd ymysg teuluoedd yr ardal. Ond trwy ychwanegu gig yn y nos dwi’n gobeithio bydd yr apêl yn ehangu, ac yn denu mwy o bobl ifanc yn enwedig.

“Er bod tipyn o gigs lawr y ffordd yng Nghaerdydd, does dim llawer o gyfleoedd i bobl ifanc ardal Caerffili ei hun weld bandiau Cymraeg yn perfformio’n fyw, felly gobeithio bydd hyn yn rhoi cyfle i ddatblygu rhywbeth mwy rheolaidd.”

Mae tocynnau Gig Ffiliffest ar werth am £5 ar wefan tocyn.cymru: https://tocyn.cymru/cy