Bydd y Mentrau Iaith yn cefnogi Dydd Miwsig Cymru ar yr 8fed o Chwefror eleni drwy ddiolch i’r rheiny sy’n gweithio’n ddi-flino i ddatblygu’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad.

Ymysg y bobl hyn mae Dafydd Roberts, arweinydd a sefydlydd clwb Iwcs yng nghymoedd y De Ddwyrain, sy’n denu dros 50 o bobl, siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg i ddysgu clasuron ar yr ukulele. Sefydlwyd y clwb cyntaf yn 2015 gan Fenter Iaith Sir Caerffili, ac erbyn hyn Dafydd yw arweinydd gwirfoddol y clwb sydd bellach yn hunangynhaliol. Esbonia Dafydd:

Dafydd Robers“Bellach rydw i’n dysgu tair gwahanol gangen tair noson yr wythnos gydag oddeutu 50 yn dod i’r sesiynau. Rydym yn dysgu caneuon Cymraeg a Saesneg ac yn denu llawer iawn o ddysgwyr yr iaith i gymdeithasu a chanu yn y Gymraeg. Mae’n grwpiau ni yn gyffredinol yn bobl hŷn ac yn bobl sydd wedi eu magu yn y cymoedd dwyreiniol. Pleser pur yw eu gweld yn cymdeithasu a pherfformio caneuon modern gyda chyfeillion newydd a hynny wrth chwarae cerddoriaeth Gymraeg.”

Mae sawl prosiect gan y Mentrau hefyd yn mynd ati i ddatblygu bandiau ifanc fel cynllun Bocsŵn ym Môn, sydd wedi bod yn cynhyrchu bandiau newydd ers 2001. Un o’r bandiau sy’n rhan o’r cynllun ar y funud yw An(n)aearol;

An(n)aearol“Ers bod yn ‘steddfod Genedlaethol 2017, ddaru ni gychwyn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg a mynd i gigs bandiau fel Gwilym, Alffa, Candelas a Fleur De Lys. Ddaru ni weld faint o hwyl oedd y bandia’ yn cael ar y llwyfan ein hysbrydoli ni i fod mewn band ac i greu cerddoriaeth Cymraeg.

Mae’r Fenter Iaith yn wych yn cefnogi bandia’ lleol wrth adael ni defnyddio’r offer sydd yn y stiwdio a threfnu gigs i hybu cerddoriaeth Cymraeg ymysg pobl ifanc.

Da ni gyd yn caru cerddoriaeth ers yn ifanc iawn ac yn gobeithio parhau i greu cerddoriaeth a gigio yn y dyfodol.”

Mae sbarduno cynlluniau ac ysgogi cymunedau i fynd ati i drefnu gweithgareddau yn rhan annatod o waith y Mentrau Iaith wrth gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, fel esbonia Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Mae cydnabod ac ateb anghenion cymunedau yn tanategu gwaith y mentrau iaith lleol wrth gynyddu ac atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau. Drwy sefydlu grwpiau Cymraeg, eu datblygu, a gadael iddynt ffynnu ar liwt eu hunain rydym yn rhoi’r berchnogaeth nol i’r gymuned ac yn gadael i ni fynd ati i adnabod yr angen nesaf. Rydym felly yn gwerthfawrogi gwaith pobl fel Dafydd Roberts yn fawr iawn, sy’n rhoi eu hamser yn wirfoddol i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau drwy ddefnyddio cerddoriaeth i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.”

Bydd astudiaethau achos o’r gwahanol brosiectau yn ymddangos ar wefan www.mentrauiaith.cymru yn ystod yr wythnos yn arwain at Ddydd Miwsig Cymru gydag amryw ddigwyddiad lleol yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol y Mentrau Iaith.