Diwrnod Shwmae Su’mae

Bob blwyddyn ar 15 Hydref rydym yn dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae i ddathlu’r Gymraeg trwy ddweud Shwmae neu Su’mae, dechrau pob sgwrs yn Gymraeg, trefnu digwyddiadau Cymraeg a llawer mwy. Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn perthyn i bawb ac mae cymunedau ar draws Cymru yn dathlu gyda gweithgareddau gwahanol.

Am fwy o wybodaeth ac adnoddau digidol cer i wefan Mudiad Dathlu. Cysyllta â dy Fenter Iaith leol i weld beth sydd ymlaen.