Bydd y Mentrau Iaith yn dathlu diwrnod Shwmae Su’mae ar Hydref 15fed eto eleni er mwyn annog pobl i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg gyda Shwmae neu Su’mae.

Gan gydweithio gyda Mudiad Dathlu’r Gymraeg, mae Mentrau Iaith Cymru wedi creu taflenni ‘Say it in Cymraeg’ er mwyn rhannu gyda busnesau a sefydliadau dros Gymru er mwyn annog eu cynulleidfaoedd ddefnyddio geiriau Cymraeg.

Mae modd lawrlwytho’r taflenni  ‘Yn y Siop’, ‘Yn y Dafarn’, ‘Yn y Swyddfa’ ac ‘Yn y Caffi’ yma.