Ar Fai 18fed bydd Menter Iaith Conwy a chwmni Mewn Cymeriad yn cyflwyno sioe hwyliog yn dod a stori hanesyddol o oes Llywelyn Fawr yn fyw i deuluoedd.

Fel rhan o ddigwyddiad Dathlu Treftadaeth Llanrwst yn y dref, mae’r fenter iaith wedi comisiynu’r sioe un-dyn Cymraeg gan gwmni Mewn Cymeriad fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o gysylltiad cyn dywysog Cymru ag ardal Llanrwst.

Mae’r cydweithio diweddaraf yn ychwanegu i’r berthynnas dda sydd rhwng cwmni Mewn Cymeriad gyda’r Mentrau Iaith dros Gymru, sydd wedi comisiynnu a datblygu 5 sioe dros y blynyddoedd yn cynnwys stori Kate Roberts, Terfysg Merthyr a Dic Penderyna mwy.

Dywed Eleri Twynog, cyfarwyddwr Mewn Cymreriad;

“Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda’r Mentrau Iaith dros Gymru i ddod a chymeriadau lleol yn fyw. Mae gallu gweithio gyda’r endidau lleol yn ein galluogi i gyrraedd cymunedau a rhannu storiau am hanes Cymru.”

Bydd y sioe yn dilyn hynt a helynt cymeriad o’r enw Harri Liwt ei Hun, cerddor yn llys y brenin Llywelyn Fawr a fydd yn dod a’r canoloesodd i’r unfed ganrif ar hugain. Neil ‘Maffia’ Willams fydd yn perfformio’r sioe, sydd wedi ei chreu gan Myrddin ap Dafydd, brodor o Lanrwst ac Archdderwydd Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol 2019-22.

Bydd digwyddiad Dathlu Treftadaeth Llanrwst yn binacl prostiect blwyddyn o hyd wedi’w hariannu gan Gyngor Tref Llanrwst, Cronfa Partneriaeth Eryri,Cronfa Loteri Dreftadaeth, Cyngor Conwy a Conwy Cynhaliol trwy arian Ewrop i godi’r ymdeimlad o dreftadaeth yn y dref wrth arwain at groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r cyffiniau.

Dywed Esyllt Tudur Adair, cydlynydd y prosiect o Fenter Iaith Conwy;

“Wrth groesawu un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr diwylliannol Cymraeg a Chymreig, creda Menter Iaith Conwy ei fod hi’n bwysig i drigolion lleol wybod am ein treftadaeth a’n hunaniaith yn ein milltir sgwar fel y gallwn ei hyrwyddo orau posib pan ddaw gweddill Cymru i’w mwynhau ym mis Awst.

Mae’r diwrnod dathlu yn ffordd arbennig i orffen y prosiect yma a fydd yn dod a sawl elfen o dreftadaeth y dref ynghyd – y diwydiant gwlan, yr hen chwareufa gampau a hanes y dref sy’n cynnwys beddrod Llywelyn Fawr yn ein heglwys hynafol. Mae wedi bod yn hyfryd cydweithio gyda Mewn Cymeriad i ddatblygu’r sioe fel rhan o’r digwyddiad. Croeso i bawb!”

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;

“Mae’n arbennig gweld y Mentrau Iaith lleol yn cydweithio gyda chwmni Mewn Cymeriad i ddod a chymeriadau hanesyddol Cymru yn fyw. Yn anffodus, mae hanes Cymru a hanes y Gymraeg yn cael ei golli o addysg plant y wlad, ac felly mae’n bleser cael cwmni fel Mewn Cymeriad yn mynd ati i rannu’r storiau hyn mewn ffordd hwyliog a hwylus i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg o bob oed, gan gryfhau ein teimlad o hunaniaeth leol.”

Bydd digwyddiad Dathlu Treftadaeth Llanrwst yn cael ei chynnal ar gae Ysgol Bro Gwydir ar ganolfan gymunedol yn Llanrwst ar Fai 18fed o 10yb – 2yp. Ewch i wefan www.miconwy.cymru am fwy o wybodaeth.

poster dathlu