Ers 10 mlynedd bellach rydym yn dathlu diwrnod Shwmae / Su’mae a’r Gymraeg ar y 15fed o Hydref. Sut wyt ti’n dathlu eleni? Dyma rai gweithgareddau mae’r Mentrau Iaith yn eu cynnal. Cerddoriaeth13/10 – Sesiwn Werin Tŷ Tawe am 7yh13/10 – Gig Bwncath, Canolfan...
Newyddion
*Swydd* – Rheolwr Cynllun Gwreiddiau Gwyllt – wedi penodi
Hoffet ti weithio i redeg prosiect newydd a chyffrous? Roedd teimlad ymhlith rhai o’r Mentrau Iaith fod elfen o'n treftadaeth mewn peryg, sef yr enwau Cymraeg a'r hanes a'r cyfoeth y maent yn eu cynnwys er mwyn deall ein gorffennol. Byddwn yn ymgysylltu er mwyn rhedeg...
Dydd Miwsig Cymru
Bydd Chwefror 10fed yn atseinio o gerddoriaeth ar hyd a lled Cymru a bydd y Mentrau Iaith yn ei chanol hi yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Mor braf yw gallu cynnal gigs a chyngherddau ac i gael plant o bob oed fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar eu stepen drws, ac...
Caneuon Dafydd Iwan yn ysbrydoli
Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Caneuon Dafydd Iwan ydy'r ysbrydoliaeth, gyda gweithgareddau ar gyfer pawb ar draws y...
Gwyl Ddewi gyda’r Mentrau Iaith
Beth fyddi di yn ei wneud ar ddydd Gwyl Dewi eleni? Mae gan y mentrau Iaith lwyth o bethau ymlaen ar hyd Cymru - edrych drwy'r llyfryn hwn i gael gweld os oes rhywbeth ymlaen yn dy ardal di! Dathlu-Dydd-Gwyl-Dewi-Sant-2Download Mae’r Mentrau Iaith yn falch iawn gallu...
30 Mlynedd o Fentro
Mae'r rhwydwaith yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu'r Fenter Iaith Gyntaf. Ymuna â ni i edrych yn ôl ac edrych ymlaen i'r 30 mlynedd nesaf yng nghwmni Dafydd Iwan fel rhan o raglen Cymdeithasau Eisteddfod AmGen. Cafodd y sgwrs ei recordio ymlaen llaw ym mis Gorffennaf...
Cydweithio i hyrwyddo busnesau awyr agored Cymraeg
Mae Mentrau Iaith Gwynedd (Hunaniaith), Bangor, Conwy a Môn yn cydweithio i lansio cynllun CAMU. Ymgyrch yw CAMU i greu brand i gyd hyrwyddo busnesau awyr agored sy’n gallu darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a chynnig profiad Cymreig gwirioneddol i...
Mudiadau Cymraeg yn gosod her i Gymreigio technoleg
Mae staff mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ymuno mewn her fawr dros wyliau'r 'Dolig i gyfrannu 50 awr o leisiau at Common Voice Cymraeg, sy’n datblygu’r Gymraeg ym maes technoleg clyfar. Bydd staff ac aelodau yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg, yr Eisteddfod...
Dathlu’r Traddodiad Mari Lwyd
Eleni mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o draddodiadau hynafol Cymreig yn cynnwys y Fari Lwyd. Fel rhan o’r ymgyrch bydd Stomp y Fari Lwyd yn cael ei chynnal ar-lein i ddathlu’r Hen Galan ar Ionawr 12fed, 2021. Penglog ceffyl wedi addurno â rhubanau lliwgar a...
Cynnal y Blygain Rithiol Cyntaf Erioed
Gyda Nadolig dra wahanol yn ein wynebu eleni, mae un o draddodiadau hynafol y Cymry hefyd yn addasu – y Plygain Rhithiol. Mae’r Mentrau Iaith a Trac yn cynnal dwy noson o berfformiadau carolau Plygain ar-lein ar nosweithiau Sul Ragfyr 20fed a Ionawr 3ydd. Ond, beth...
Clwb Theatr Cymru dros y ‘Dolig!
Sêr ifanc Cymru! Mae Clwb Theatr Cymru yn dychwelyd y Nadolig hwn gyda llond sach o hwyl a sbri. Yn ystod gwyliau’r haf eleni, daeth 118 o blant ledled Cymru at ei gilydd dros Zoom i berfformio, dawnsio a joio. Nawr, ry’n ni wrthi’n cynllunio gweithdai newydd...