Bydd Tafwyl yn agor ei drysau am noson ychwanegol eleni ar ôl ymuno â’r label dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, PYST, i gyflwyno noson o gerddoriaeth, celfyddydau a bwyd stryd yng Nghastell Caerdydd ar nos Wener 21 Mehefin, 2019.

Gyda mynediad am ddim, bydd y noson ychwanegol hon yn siŵr o ddenu llu o bobl cyn i’r penwythnos ei hun ddechrau, gyda detholiad o artistiaid anhygoel ar y llwyfannau.

Dros y blynyddoedd mae Tafwyl, sy’n cael ei drefnu gan Fenter Caerdydd, wedi tyfu o fod yn ŵyl fechan i fod yn ddigwyddiad poblogaidd tu hwnt sydd bellach yn cael ei chynnal dros ddeuddydd yng Nghastell Caerdydd, a llynedd fe lwyddodd yr ŵyl i ddenu dros 40,000 o bobl.

Yn ddiweddar, mae’r niferoedd sydd wedi tyrru i Tafwyl o’r tu allan i Gaerdydd wedi cynyddu, gyda 26% o’r gynulleidfa yn teithio i ganol y ddinas i ymweld â’r ŵyl.

Eleni, mae Tafwyl wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, ac mae hyn yn helpu i ymestyn dylanwad yr ŵyl y tu hwnt i Gymru gan sicrhau llwyddiant i’r dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg, Eluned Morgan:

“Mae’n wych gweld digwyddiadau Cymreig yn ffynnu, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi digwyddiadau fel Tafwyl. Maent yn tyfu ac yn arddangos Cymru fel cenedl fywiog, ddeinamig ac un arloesol. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi twf yr ŵyl, yn enwedig wrth ddenu ymwelwyr o tu allan i Gymru, ac wrth ochr yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Tafwyl wedi tyfu i fod yn un o’r prif ddigwyddiadau diwylliannol yn y calendr ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

“Apêl Tafwyl yw ei bod hefyd yn hygyrch i bobl ddi-Gymraeg, gan ddenu llawer o bobl na fyddent yn aml yn mynychu digwyddiad lle mae’r Gymraeg yn brif iaith. Mae digwyddiadau diwylliannol fel Tafwyl yn hanfodol i ddenu cynulleidfa newydd ac maent yn allweddol wrth dyfu’r Gymraeg erbyn 2050. ”

Mae’r ŵyl yn derbyn cefnogaeth amryw o bartneriaid gan gynnwys FOR Cardiff, Cyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ôl Adrian Field, Prif Weithredwr, FOR Cardiff:

“Mae FOR Cardiff yn falch o gefnogi digwyddiad nos Wener Tafwyl er mwyn helpu’r ŵyl i dyfu. Roedden ni am fanteisio i’r eithaf ar ddigwyddiad mor wych er mwyn sicrhau y gallai pobl yng nghanol y ddinas ei fwynhau, yn ogystal â chynnig rheswm arall i bobl ddod i Gaerdydd.”

Yr hyn sy’n wych am Tafwyl yw ei bod am ddim, mewn lleoliad unigryw yng nghanol y ddinas sy’n golygu ei bod yn agored i bawb; boed nhw’n siaradwyr Cymraeg neu’n hollol newydd i’r iaith a’r diwylliant.

Mae Tafwyl yn fwy na gŵyl gerddorol – mae yma lu o wahanol fathau o fwyd a diod, llenyddiaeth, chwaraeon, comedi a rhaglenni i blant, gyda digwyddiadau Gŵyl Ffrinj yn cael eu cynnal yn yr wythnos cyn y prif ddigwyddiad ar y penwythnos.

Ar y nos Wener, bydd llu o artistiaid Cymraeg yn perfformio ar ddwy lwyfan. Ymhlith y perfformiadau ar y brif lwyfan bydd Gwenno, Lleuwen a’r Band, Adwaith, Serol Serol a DJ Huw Stephens rhyngddynt. Mae llwyfan Y Sgubor, sy’n cael ei guradu gan yr artist gweledol o Gymru, Swci Delic, yn cynnwys perfformiadau gan Y Niwl, Zabriniski, Bitw, Ani Glass yn ogystal â Toni Shiovone a fydd yn DJio rhwng yr artistiaid. Yn ogystal â cherddoriaeth wych, bydd digonedd o stondinau bwyd a diod unigryw ar gael, gan gynnwys danteithion gan Ffwrnes Pizza, The Bearded Taco, Meat and Greek a Bar Milgi.

Yn ôl Llinos Williams, Menter Caerdydd:

“Mae gymaint o artistiaid cyffrous o gwmpas ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni ychwanegu noson arall o gerddoriaeth eleni! Mae apêl yr ŵyl wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd, felly mae’n braf gallu rhoi cyfle i fwy o bobl ddod i brofi’r digwyddiad unigryw hwn

Dywedodd Alun Llwyd, PYST:

“Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Tafwyl i gyflwyno noson wych o gerddoriaeth Gymreig a gobeithiwn y bydd y nos Wener yn estyn allan i gymunedau ledled y ddinas ac yn ddigwyddiad rheolaidd yng nghalendr gwyliau Cymru.”

Mae Tafwyl 2019 yn dechrau ar 15 Mehefin gyda’r Ŵyl Ffrinj, ac yna mae penwythnos llawn bwrlwm yn dechrau yng Nghastell Caerdydd o nos Wener 21 Mehefin tan ddydd Sul 23 Mehefin. Caiff yr holl artistiaid eu cyhoeddi yn fuan.

Mae Menter Caerdydd hefyd yn trefnu cynllun datblygu artistiaid y dyfodol i berfformio yn Tafwyl. Mwy o wybodaeth am y cynllun hwn yma.