Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn chwilio am Swyddog Datblygu Cymunedol brwdfrydig a hyderus i drefnu a chefnogi gweithgareddau i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a Thorfaen.
Dyddiad Cau: 15/09/2017
Amser Cau: 17:30
Cyfweliadau: Dydd Llun Medi 25ain, 2017
Lleoliad: Canolfan Iago Sant, Heol Hanbury, Pont-y-pŵl, Torfaen, Cymru, NP4 6JT.
Gwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Mary Scourfield (Prif Swyddog)
Ffôn: 01495 755861
E-bost: mary@menterbgtm.org
Cytundeb parhaol ond yn ddibynnol ar gyllid ac adnoddau (yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio rhan amser.)
Ewch i’n Gwefan am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais, gweler isod.
Cyflog – £22,000 (gyda chyfraniad pensiwn o 6% yn ychwanegol)
Gwefan am fwy o wybodaeth menterbgtm.cymru