*Swydd Wag* Swyddog Gweinyddol Menter Bro Ogwr

Mae gan Fenter Bro Ogwr gyfle cyffrous i berson brwdfrydig ymuno â thîm y Fenter fel Swyddog Gweinyddol Menter Bro Ogwr.
Mae’n ofynnol i Menter Bro Ogwr gael gweinyddwr profiadol i gefnogi’r tîm gyda materion gweinyddol, sicrhau bod systemau gweinyddol yn cael eu gweithredu’n drylwyr yn ddyddiol, rheoli llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac i hyrwyddo gwasanaethau ymysg trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyflog: £17,842 i £18,562 pro rata
Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos (gweithio’n hyblyg)
Dyddiad Cau: 26ain o Ionawr 2021, 12:00yp
Lleoliad: Menter Bro Ogwr, Tŷ’r Ysgol, Pen yr Ysgol, Maesteg, CF34 9YE / Gweithio gartref
Am ragor o fanylion cysylltwch ag Amanda Evans 07774032624 neu anfonwch e-bost at menter@broogwr.org