Swydd Wag – Swyddog Datblygu Canolfan a Chymuned – Menter Iaith Abertawe a Thŷ Tawe

Mae Menter Iaith Abertawe a Chanolfan Tŷ Tawe’n chwilio am Swyddog Datblygu Canolfan a Chymuned hyderus ac egnïol i farchnata gwaith y Fenter a’r Ganolfan
Teitl y swydd: Swyddog Datblygu Canolfan a Chymuned
Lleoliad y swydd: Lleolir y swydd yn Siop a Chanolfan Tŷ Tawe
Cytundeb: Parhaol (tra bwriedir i’r swydd fod yn barhaol, mae cyfnod y swydd hon yn gwbl ddibynnol ar gyllid/ariannu. Ceir cyfnod prawf o 6 mis).
Cyflog: Cyflog cychwynnol o £18,000 y flwyddyn (ystyrir codiad cyflog ar ôl cyfnod prawf llwyddiannus)
Dyddiad cau: 12.00 ar 01.09.17
Ystyrir gwahanol opsiynau cyflogaeth – llawn amser, rhan amser neu rannu swydd
Am fwy o fanylion ffoniwch 01792 460906 er mwyn siarad â’r Pennaeth neu e-bostiwch dean@menterabertawe.cymru am becyn cais.
Mae Menter Iaith Abertawe yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned