Swydd Wag: Swyddog Ardal Arfordirol Sir Conwy

Swydd:
Teitl y Swydd: Swyddog Ardal Arfordirol Sir Conwy
Cyflog: £20,661 y flwyddyn (graddfa llawn amser) gyda chyfraniad pensiwn 3%.
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Hyd y Contract: Blwyddyn i ddechrau efo golwg o barhau wedyn.
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Y Sgwâr, Llanrwst
Prif ròl y gwaith: Arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal y Glannau yn y Sir. Bydd hyn yn cynnwys arwain a chynorthwyo pwyllgorau ardal a threfnu rhaglen o ddigwyddiadau wedi eu hanelu at deuluoedd, plant a phobl ifanc.
Mae croeso i chi gysylltu am fwy o fanylion.
Cais drwy lythyr a CV. Cysylltwch efo Meirion ar (01492) 642357 neu meirion@miconwy.cymru
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau 6/4/18, gyda bwriad i gyfweld ar y 19/4/18.