*SWYDD WAG* Rheolwr/arweinydd chwarae Clwb Bananas Menter Bro Ogwr

Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig, brwdfrydig ac uchel eu cymhelliant i ymuno â’n tîm er mwyn cyflawni rôl y Rheolwr/Arweinydd Chwarae.
Oriau: 15 awr yr wythnos
Tâl: £8.50 yr awr
Lleoliad:
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Princess Way, Bracla, Pen-y-bont, CF31 2LN
Y Clwb:
Lleoliad gofal plant.
Aelod o Glybiau Plant Cymru, sy’n golygu bod cymorth, cyngor ac hyfforddiant o ansawdd ar gael trwy gydol y flwyddyn.
Wedi’i leoli ym Mhen-y-bont.
Cysylltiadau gwaith agos gydag Ysgol Gymraeg Bro Ogwr a gwasanaethau eraill a gynigir ar safle Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.
Cysylltiadau gwaith agos gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a Thîm Gofal Plant Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cynorthwyo’r rhai mewn angen mewn ffordd effeithiol.
Datblygiad proffesiynol parhaus ar gael i’r holl gyflogeion, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ac arfer gwaith yn parhau i fod yn berthnasol.
Y rôl:
Bydd angen bod yr ymgeisydd yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae neu’n hapus i ymgymryd â hyfforddiant wrth weithio yn y clwb ar gyfer y cymhwyster hwn a bydd yn rhaid bod ganddynt wybodaeth gadarn ynghylch gweithio mewn ffordd ddiogel gyda phlant a thîm o staff.
Byddai profiad o weithio mewn lleoliad gofal plant/chwarae gyda phlant 3–11oed yn ddymunol. Mae’r Clwb ar ôl Ysgol yn cael ei gynnal rhwng 3:30pm a 5:29pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae’n croesawu 16 o blant bob dydd.
Bydd yr Arweinydd Chwarae yn sefydlu ac yn rheoli’r gwaith o redeg y Clwb Ar Ôl Ysgol o ddydd i ddydd.
Bydd yr Arweinydd Chwarae yn rheoli ac yn cynorthwyo’r tîm effeithiol o staff a gwirfoddolwyr. Bydd yr Arweinydd Chwarae yn rhannu’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod y gwaith papur yn cael ei ddiweddaru a’i gofnodi mewn ffordd fanwl gydag aelodau’r Pwyllgor.
Bydd yr Arweinydd Chwarae yn rhannu’r cyfrifoldeb dros y sefyllfa ariannol gyda rheolwr llinell.
Bydd yr Arweinydd Chwarae yn gyfrifol am lenwi ac am gyflwyno ceisiadau am grantiau, gan gael cymorth a chyngor gan rheolwr llinell.
Cynigir y swydd hon yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, ar ôl i Fenter Iaith Bro Ogwr gael dau eirda boddhaol ac ar ôl i’r unigolyn sicrhau tystysgrif ddilys gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cysylltwch â ni:
Os yw hwn yn swnio fel swydd sy’n cyfateb â’ch sgiliau chi, ac mae gennych chi ddiddordeb ynddi, cysylltwch â’r Fenter:
01656 732200 menter@broogwr.org