*Swydd Wag* Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe

Mae Cyfarwyddwyr Menter Iaith Abertawe yn awyddus i benodi arweinydd brwdfrydig a blaengar i hybu a hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg yn y sir.
Cyflog: £28,000 – £30,000 (yn ddibynnol ar brofiad)
Oriau gwaith: Wythnos waith sylfaenol yw 37.5 awr yr wythnos. Oherwydd natur y sefydliad, disgwylir i’r Prif Swyddog Datblygu fod yn hyblyg o safbwynt yr oriau a weithir a’r dyletswyddau yr ymgymerir â hwy er mwyn cyflawni’r gwaith. Ceir amser rhesymol yn ôl fel amser dyledus.
Lleoliad arferol: Canolfan Tŷ Tawe, Abertawe.
Cytundeb: Parhaol – yn amodol ar gyllid (cyfnod prawf o 12 mis)
Dyddiad Cau: 17:00, 15/12/2020
Dyddiad Cyfweld (ar-lein): 22/12/2020
Am fanylion pellach e-bostiwch Rhian Jones, calonlan13@yahoo.com