Swydd Wag – Cynorthwy-ydd Gofal Menter Cwm Gwendraeth Elli

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn chwilio am Gynorthwy-ydd Gofal ar gyfer y clwb yma o fis Medi 2017 ymlaen. Mae’n rhaid bod ganddynt wybodaeth gadarn ynghylch gweithio mewn ffordd ddiogel gyda phlant a thim o staff. Byddai profiad o weithio mewn lleoliad gofal plant/chwarae gyda phlant 3-11 oed yn ddymunol.
Ystyrir trefniadau i rannu’r swydd. Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Teitl swydd: Cynorthwy-ydd Gofal
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Gwenllian
Oriau: 2.15 awr y dydd rhwng 3:15yh a 5:30yh (Llun i Gwener) yn ystod Tymor Ysgol.
Cyflog: I’w drafod
Dyddiad cau: 5yh ar 01/09/2017
Am fwy o wybodaeth / disgrifiad swydd / sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Alaw Davies: alaw@mcge.org.uk / 01269 871600
Ceisiadau drwy CV a llythyr gydag enwau dau ganolwr i
Alaw Davies: alaw@mcge.org.uk