Swydd Wag: CYDLYNYDD MENTER GORLLEWIN SIR GÂR (rhan amser)

CYDLYNYDD MENTER GORLLEWIN SIR GÂR
(rhan amser – 20 awr yr wythnos)
Cyflog: Graddfa E, Pwynt 19-22 (£18,746-£21,268) pro-rata ac yn ddibynnol ar brofiad.
Cytundeb: Fydd yn cael ei adolygu’n flynyddol hyd at ddiwedd Rhagfyr ‘19
Lleoliad: Wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin neu Castell Newydd Emlyn.
Rydym yn chwilio am berson trefnus ac effeithiol sydd â’r gallu a’r profiad i gyflawni gwaith gweinyddol y fenter.
Mi fydd y person delfrydol yn hunan ddisgybledig, brwdfrydig ac yn medru cyfathrebu’n dda yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais ewch i www.mgsg.cymru
DYDDIAD CAU: 9am 16/04/2017