*Swydd Wag* Cydlynydd Ieuenctid Cymunedol Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Swydd i berson sy’n meddu ar y gallu i weithio’n strategol ac ymarferol i gydlynu, darparu a rheoli gweithgarwch a chyfleoedd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc y Sir, er mwyn annog perchnogaeth a defnydd o’r iaith Gymraeg.
Mae profiad o waith ieuenctid yn hanfodol ond rydym hefyd yn chwilio am rywun sydd gyda gwybodaeth eang o ddiwylliant cyfoes Cymraeg ac sy’n barod i feddwl a gweithredu’n greadigol er mwyn hyrwyddo a datblygu darpariaeth cymunedol Cymraeg.
Bydd angen y gallu i gyfathrebu’n dda gyda chynulleidfa eang; i ddatrys problemau’n ddiplomyddol; i weithio’n annibynnol ac o dan bwysau; i ddatblygu profiadau a gweithredu ar syniadau pobl ifanc.
Cyflog: £23,000 – £25,000 y flwyddyn (dibynnol ar brofiad)
Oriau: 37.5 awr yr wythnos (oriau hyblyg)
Lleoliad: Swyddfa’r Fenter, Pontypridd
Dyddiad cau: 14/02/19
Dyddiad cyfweliad: 21/02/19
Am wybodaeth pellach neu ffurflen gais cysylltwch gyda Einir Sion ar 01443 407570 neu einir@menteriaith.cymru