Swydd Wag: Cydlynydd Cynllun Dathlu Treftadaeth Llanrwst

Swydd: Cydlynydd Cynllun Dathlu Treftadaeth Llanrwst
Prosiect: Cynllun Dathlu Treftadaeth Llanrwst
Cyflog: £22,000 y flwyddyn (graddfa llawn amser) gyda chyfraniad pensiwn 3%.
Oriau Gwaith: 15 awr yr wythnos
Hyd y Contract: Blwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Y Sgwâr, Llanrwst
Bydd y Cydlynydd yn gyfrifol am gydlynu a sicrhau gweithrediad pob elfen o Raglen Weithgareddau Cynllun Dathlu Treftadaeth Llanrwst. Mae’r rhaglen yma wedi ei chynllunio ar ôl ymgynghori efo’r cyhoedd. Y prif elfennau fydd; TELYN LLANRWST, LLINELL AMSER LLANRWST, GWLÂN, CAERDROIA, CHWAREUFA GAMPAU.
Mae croeso i chi gysylltu am fwy o fanylion. Cais drwy lythyr a CV. Cysylltwch efo Meirion ar (01492) 642357 neu meirion@miconwy.cymru
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau 26/2/18.