Yn ystod y mis diwethaf mae dros 1,800 o bobl wedi datgan eu cefnogaeth i waith y Mentrau Iaith trwy lofnodi deiseb a gyflwynwyd i bwyllgor deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol sy’n gweithredu ledled Cymru, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Fe gyflwynwyd y ddeiseb gan y mudiad Dyfodol i’r Iaith mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd am waith y Mentrau yn gynharach eleni a ganfu y dylai gwaith pwysig y Mentrau barhau a datblygu. Ond ar hyn o bryd nid yw’r Mentrau’n cael eu hariannu’n deg nac yn ddigonol i weithredu i’w potensial llawn.

Mae’r Mentrau’n galw am fuddsoddiad o £4.8m fydd yn eu galluogi i weithredu’n fwy dwys yn eu cymunedau, i ddatblygu cynlluniau strategol i gryfhau’r Gymraeg yn eu hardaloedd, i ddatblygu eu staff ac i annog arloesi er mwyn ehangu eu gwaith i feysydd newydd er budd y Gymraeg.

Dywedodd Meirion Davies, llefarydd ar ran y Mentrau “Rydym yn falch iawn bod Dyfodol i’r Iaith, a chymaint o unigolion ar draws Cymru, wedi dangos eu cefnogaeth i’r Mentrau trwy’r ddeiseb hon. Mae hyn yn rhoi neges glir i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r gefnogaeth sydd gan bobl ledled Cymru tuag at waith eu Mentrau Iaith lleol. Mae pobl am weld y Mentrau yn cryfhau a datblygu er mwyn gweithredu’n fwy dwys er budd y Gymraeg yn eu cymunedau, ac mae angen buddsoddiad pellach yn eu gwaith iddyn nhw allu gwneud hynny.”

Mae Mr Davies yn esbonio bod y Mentrau am glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog i gryfhau’r Gymraeg yn gymunedol: “Mae strategaeth iaith y Llywodraeth, Iaith Fyw: Iaith Byw, yn datgan bod y Llywodraeth am weld y Gymraeg yn ffynnu, a chynnydd yn y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio. Mae gweledigaeth a gwaith y Mentrau yn cefnogi’r weledigaeth honno, ac yn dilyn nifer o ymgynghoriadau, gan gynnwys Y Gynhadledd Fawr y llynedd, mae’r amser wedi dod i gymryd camau clir a phendant i gryfhau a chefnogi’r Gymraeg yn ein cymunedau. Byddai ymateb gadarn gan y Prif Weinidog i gais y Mentrau am fuddsoddiad teg yn eu gwaith yn gam pwysig y gall Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog ei wneud er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r Gymraeg.”

“Rydym yn cydnabod yn llawn ein bod ni’n wynebu hinsawdd economaidd anodd, ond ar yr un pryd mae rhaid inni gydnabod bod y Gymraeg yn wynebu heriau difrifol. Mae’n bodoli ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd. Os yw’r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobl ifanc fe fyddai hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill yn y dyfodol. Mae pobl Cymru wedi ymateb yn gadarn i’n cais am eu cefnogaeth ac mae’n bryd nawr i’n Llywodraeth ni ymateb yn gadarnhaol i’r angen a’r galw am gefnogaeth i’r Mentrau Iaith ac i’r Gymraeg.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad hwn i’r wasg cysylltwch ag Emily Cole ar 01443 493715 emily@Mentrauiaith.org

Am y Mentrau Iaith
• 22 Menter Iaith ar draws Cymru
• Dros 300 o aelodau staff
• 1,300 o wirfoddolwyr
• 13,000 o weithgareddau bob blwyddyn
• 160,000 o gyfranogwyr bob blwyddyn
• Mae’r Mentrau ar draws Cymru yn weithredol mewn sawl maes, gan gynnwys datblygu economaidd, Mentrau cymdeithasol, gwasanaethau i deuluoedd, gwasanaethau gofal a chwarae, gwasanaethau ieuenctid, cyfieithu cymunedol, addysg gymunedol, y celfyddydau a threftadaeth.