Dydd Gwener, Awst 28ain 2020, cyhoeddwyd cân newydd sbon gan fand ifanc o Ddyffryn Conwy, a recordiwyd yn ystod y cyfnod clo o bedwar cartref gwahanol – o Gonwy i Gaerdydd!

Bu’r criw sydd rhwng 13 – 15 mlwydd oed yn cyfarfod yn wythnosol yn adeilad Menter Iaith Conwy ar ddechrau’r flwyddyn fel rhan o brosiect cerddorol Bocsŵn. Daeth hynny i ben yn dilyn cyfyngiadau clo ym mis Mawrth. Ond, trwy dechnoleg rhaglen Zoom, dan arweiniad Llŷr Parri (un o’n tiwtoriaid Bocsŵn yng Nghonwy) mae’r criw wedi llwyddo i barhau i gyfarfod yn wythnosol a chydweithio ar ysgrifennu a recordio cân newydd sbon – ‘Lockdown Rock ar Ras’.

Dywed Siwan Elenid Jones, Swyddog Maes Menter Iaith Conwy:

“Fel y gallwch ddyfalu o deitl y gân, cafodd yr hogie eu hysbrydoli i ysgrifennu’r geiriau am y profiad o chwarae mewn band dros Zoom, ac anawsterau fel Noa’n hwyr, fod Owain ar mute – a bod gan Brenig gath ddireidus oedd yn mynnu chwarae gyda gwifrau ei gyfrifiadur!”

Dywed Llŷr Parri, Tiwtor Cynllun Bocsŵn Menter Iaith Conwy:

“Cawsom amser da yn cyfansoddi a recordio dros Zoom yn ystod y cyfnod clo. Er gwaethaf chydig o broblemau gyda’r we, llwyddon ni i rannu syniadau gyda’n gilydd ym mhob sesiwn ac yna mynd ati i’w recordio adref yn barod at y sesiwn nesaf. Roedd y broses o ddod a’r syniadau at ei gilydd ar y meddalwedd yn lawer o hwyl. Dwi’n falch o allu dangos i rai o gerddorion ifanc yr ardal sut mae troi syniadau fewn i record,  a mae’r gân ei hun wedi dod allan yn dda dwi’n meddwl i ystyried yr amgylchiadau!”

Dywed Brenig Williams, un o aelodau’r band:

“Roedd yn brofiad gwych, ac rwyf wedi mwynhau’n fawr cael bod yn rhan o’r grwp yn ystod y lockdown. Roedd yn braf cael dod at ein gilydd i greu rhywbeth y gwneith bobl fwynhau gwrando arno – gobeithio! Diolch yn fawr i Llŷr am fod yn fentor mor dda.”

Mae Menter Iaith Conwy yn ddiolchgar am nawdd gan Gyngor y Celfyddydau sydd yn eu galluogi i gynnal y cynllun Bocsŵn yn y sir, ac i Llŷr Parri am ei holl waith gyda’r criw. Maw Bocsŵn wedi bod yn rhedeg dan nawdd Cyngor y Celfyddydau ers bron i flwyddyn bellach. Dechreuodd cynllun Bocsŵn ar Ynys Môn ac mae Menter Iaith Conwy wedi derbyn arweiniad gan Fenter Iaith Môn i ehangu’r cynllun yng Nghonwy.  Dim ond un rhan o’r cynllun yw’r gweithdai band uwchradd, ac mae’r Fenter yn edrych ymlaen at gael parhau gyda gweddill y prosiect pan fydd hynny’n bosib.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth cofiwch edrych allan am ddatblygiadau’r cynllun Bocsŵn yng Nghonwy trwy ddilyn Menter Iaith Conwy ar y cyfryngau cymdeithasol a’u safle we.