Gyda Nadolig dra wahanol yn ein wynebu eleni, mae un o draddodiadau hynafol y Cymry hefyd yn addasu – y Plygain Rhithiol. Mae’r Mentrau Iaith a Trac yn cynnal dwy noson o berfformiadau carolau Plygain ar-lein ar nosweithiau Sul Ragfyr 20fed a Ionawr 3ydd. 

Ond, beth yw Plygain? Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy…

Mae’r traddodiad o ganu carolau Plygain i ddathlu’r Nadolig wedi parhau yn gyson mewn sawl man yng Nghymru yn cynnwys ym Maldwyn. Cafwyd y syniad o gynnal Y Blygain Rithiol cyntaf erioed gan Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn er mwyn parhau â’r traddodiad a dod â chymunedau ynghyd. Dywed Rhian; 

Mae’r Blygain yn rhan bwysig o arferion tymor y Nadolig i nifer ohonom yma ym Maldwyn. Roedd meddwl am golli’r cyfle i ganu’r carolau traddodiadol hyfryd yma, a’r cymdeithasu a’r gwmnïaeth wedi peri siom mawr yn yr ardal. Roeddwn i’n awyddus iawn i lenwi’r bwlch rhywsut a lleddfu tipyn ar yr hiraeth yn y gymuned leol. Ond wrth gwrs, er mai ym Maldwyn mae’r Blygain ar ei chryfaf, mae Plygeiniau yn cael eu cynnal ar draws Cymru. Gan fod cynnal digwyddiad ar y we yn golygu bod modd cael cyfranwyr o bob rhan o’r wlad roedd hyn yn cynnig cyfle i ni gynnal Plygeiniau rhithiol cenedlaethol. 

Yn wahanol i wasanaeth Plygain arferol ni fydd y Plygeiniau Rhithiol yn cael eu cynnal mewn eglwys neu gapel, ond yn hytrach ar Facebook a YouTube. Oni bai am y lleoliad bydd y Plygeiniau Rhithiol yn dilyn trefn draddodiadol y gwasanaethau 

Mae Ffion Mair, o Lanwddyn yn wreiddiol ond bellach yng Nghaerdydd, wedi bod yn ganolog i gasglu perfformiadau pawb at ei gilydd. Dywed; 

“Dwi mor falch ein bod ni wedi cael ymateb mor dda i’r syniad o gynnal gwasanaeth Plygain ar-lein gan unigolion a phartïon Plygain ledled Cymru. Bydd y gwasanaethau yn gyfle i ddod at ein gilydd fel cymuned a hefyd yn dangos ein traddodiad unigryw i’r byd. Rydym wedi ceisio cadw mor agos â phosib at drefn a naws Plygain go iawn – bydd gweinidog yn ein croesawu i’r gwasanaeth, bydd Carol y Swper ar y diwedd ac, wrth gwrs, rydym wedi gwneud yn siŵr na fydd unrhyw un yn ailadrodd carol sydd eisoes wedi bod!”   

Mae’r cynllun yn dilyn cydweithio rhwng y Mentrau Iaith, sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau, a Trac, sefydliad datblygu traddodiadau gwerin Cymru mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth y Cymry o’r traddodiad hynafol.  

Dywed Blanche Rowen, Rheolydd Cwmni Trac 

Rydym ni, fel Trac, wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu helpu Mentrau Iaith i greu’r digwyddiadau yma. Mae hi mor bwysig fod Plygain yn digwydd rywsut eleni ac mae symud y gwasanaethau ar y we yn gyfle gwych i rannu’r traddodiad â chynulleidfa newydd ac ehangach. 

Bydd modd gwylio’r Plygeiniau Rhithiol ar dudalen Facebook Mentrau Iaith Cymru a YouTube Trac Cymru ar 20/12/2020 a 03/01/2021 am 18:00.