Cyfle i blant Cymru ddod ynghyd i ddawnsio, actio a joio!

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Mentrau Iaith Cymru yn falch o gyhoeddi heddiw eu bod yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno Clwb Theatr Cymru er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf.

Bydd Clwb Theatr Cymru yn dod â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom yn ystod gwyliau’r haf. Bydd y sesiynau – sy’n cael eu trefnu gan Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6. Bydd yr arbenigwyr sy’n arwain ar yr hwyl yn cynnwys Jalisa Andrews, Ffion Wyn Bowen a Sian Elin.

Headshots_Cyhoeddiad

Mae pob Menter Iaith ar draws Cymru yn rhan o’r cynllun, a bydd ymgyrch i ddenu cyfranogwyr o bob ardal dros yr wythnosau nesaf. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim, ond bydd angen cofrestru trwy’r Fenter leol. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg; os oes unrhyw anghenion penodol, bydd y ddau gwmni hefyd yn eu diwallu.

Ers nifer o flynyddoedd, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama bob wythnos. Yn ystod y clo mawr, mae’r cwmni wedi bod yn cynnal sesiynau Zoom bob wythnos gyda phlant yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni weithio mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon. ThGC KK55 Clwb Theatr Cymru_posterA3_p7_hires

Dywedodd Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:

“Ry’n ni’n falch iawn o gael cyfle i gydweithio’n genedlaethol gyda Mentrau Iaith Cymru a chefnogi eu hawydd nhw, a’n hawydd ninnau, i roi cyfleoedd i blant ifanc ar draws Cymru ddod at ei gilydd dros wyliau’r haf i gymdeithasu gyda chyfoedion a chael hwyl yn y Gymraeg wrth ddysgu sgiliau celfyddydol newydd gyda thîm o arweinwyr ifanc a thalentog iawn.”

Meddai Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru wedi bod yn brysur iawn yn cynnig pob mathau o gyfleoedd i bobl o bob oed allu defnyddio eu Cymraeg yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Rydym wedi llwyddo i wneud hyn drwy gyfrwng technoleg gan ganiatáu i filoedd o bobl ddefnyddio’r iaith mewn amryw o glybiau, dosbarthiadau a gwyliau. Rydym yn falch dros ben o allu cydweithio â Theatr Genedlaethol Cymru sydd hefyd wedi arloesi gyda chynyrchiadau gwych dros y misoedd diwethaf. Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle arbennig hwn i blant Cymru ymarfer eu creadigrwydd dros yr haf.”

Mae Clwb Theatr Cymru yn rhan o raglen Pawb Ar-lein Theatr Genedlaethol Cymru, sef rhaglen o weithgareddau addysg a chyfranogi ar blatfformau digidol er mwyn ysbrydoli plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud.